Gweithdy Llechi Cerfiedig Storiel | Carved Slates of Storiel Workshop
Ymweld a'r casgliad o lechi cerfiedig/ Visit the collection of carved slates
Date and time
Location
STORIEL
Ffordd Gwynedd Bangor LL57 1DT United KingdomRefund Policy
About this event
Ymweld a'r casgliad o lechi cerfiedig
Cyflwyniad i gwaith Sian
Gweithdy creadigol yn seiliedig ar y casgliad
Visit the collection of carved slates
Introduction to Sian's work
Creative workshop based on the collection
Amdan y Gweithdy | About the Workshop
Defnyddio cyfryngau gwahanol i greu delwedd gan wneud rhwbiadau gyda creonau cwyr ac ychwanegu lliw
Arbrofi gyda Batîc a gwrthydd cwyr
Using different media to create an image by making rubbings with wax crayons and adding colour
Experimenting with batik and wax resist
Amdan yr Artist | About the Artist
"Mae fy nghwaith yn seiliedig ar y patrymau a welir yn bennaf ar lechi cerfiedig o Ddyffryn Ogwen, lle bu fy nhaid yn hollti a naddu llechi yn Chwarel y Penrhyn. Argraddiadau yw fy nghwaith yma o rwbiad o'r llechi gwreiddiol, ynghyd a fy ychwanegiadau i mewn amryw o gyfrwng yn dehongli'r patrymau a'r gweadau. Teimlaf fy mod yn cyffwrdd o bell olion marciau gan chwarelwyr gynt. Mae'r trysorau coll hyn wedi fy ysbrydoli i edrych i mewn i hanes Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen a gwaith Cymdeithas Archaeoleg Llandegai sy'n cofnodi'r llechi yma. Rwyd wedi tyrchu i hanes lleol a sylweddoli'r cyfoeth sydd gennym heb ei gofnodi a'r potensial sydd i gymunedau cyfan ddathlu ac ymfalchio yn hanes ein celf weledol.
My work is based on the patterns mainly seen on carved slates from the Ogwen Valley, where my grandfather used to split and dress slates at Penrhyn Quarry. The work here consists of prints made from rubbings of the original slates, along with my own additions in various media, interpreting the patterns and textures. I feel as though I'm remotely touching the traces of marks created by former quarrymen. These lost treasures have inspired me to delve into the history of the Carved Slates of Dyffryn Ogwen and the work of the Llandygai Archaeological Society, who document these slates. I've explored local history and realised the wealth we hold that remains unrecorded- and the potential for entire communities to celebrate and take pride in this history of our visual art.