Background to the Event
In 2023/24, the Open University in Wales brought together all nine Welsh Universities and six of the twelve FE colleges in Wales in a HEFCW funded research collaboration: the Access Insight Knowledge Transfer Project, out of which we published a report exploring barriers and enablers to Access and Foundation learning in Wales.
We recently won a small grant from the Learned Society of Wales to support two seminars: the first was held on the 7th May at Coleg Cambria, with the second being held at Bridgend College on the 5th June. This will enable us to engage immediately with one of the recommendations of our report: to “support ongoing collaboration between providers of education for post-16 transition and adult learners”, and to showcase research work in the field which has not previously been fully disseminated.
--------------------------------------------------------------------------------------------------
Cefndir y Digwyddiad
Yn 2023/24, daeth y Brifysgol Agored yng Nghymru â’r naw Prifysgol yng Nghymru a chwech o’r deuddeg coleg AB yng Nghymru at ei gilydd i gydweithio ar waith ymchwil a ariannwyd gan CCAUC: y Prosiect Trosglwyddo Gwybodaeth Mewnwelediad ar Fynediad, ac wedi hyn rydym wedi cyhoeddi adroddiad yn archwilio’r rhwystrau a’r galluogwyr i ddysgu Sylfaenol a Mynediad yng Nghymru.
Yn ddiweddar rydym wedi ennill grant bychan gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gefnogi dau seminar: cynhaliwyd y cyntaf ar 7fed Mai yng Ngholeg Cambria, a chynhelir yr ail yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr ar 5ed Mehefin. Bydd hyn yn ein galluogi i fynd i’r afael ag un o argymellion ein hadroddiad ar unwaith: i “gefnogi cydweithrediadau parhaus rhwng darparwyr addysg ar gyfer pontio ôl-16 a dysgwyr sy’n oedolion”, ac i arddangos gwaith ymchwil yn y maes sydd heb ei rannu’n llawn eisoes.