Achub yr Iaith Gymraeg | Saving the Welsh Language

Achub yr Iaith Gymraeg | Saving the Welsh Language

By Wrexham University Research

Achub yr Iaith Gymraeg: Pam Mae Cymraeg yn Cyfrif  | Saving the Welsh Language: Why Cymraeg Matters

Date and time

Location

Wrexham University

Mold Road Wrexham LL11 2AW United Kingdom

Agenda

5:30 PM - 6:00 PM

Bwyd, diod a rhwydweithio/Food, drink, and networking


Cyfle am rywbeth bach i’w fwyta ac yfed a sgwrs gyda’r mynychwyr a siaradwyr. A chance to grab a bite to eat and drink and chat with the attendees and speakers.

6:00 PM - 7:00 PM

Darlith a chwestiynau/Lecture and questions


Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno’r siaradwr cyn iddo ddechrau ei ddarlith, ac yna bydd cwestiynau gan y gynulleidfa. The Chair will introduce the speaker, who will deliver their lecture followed by audie...

7:00 PM - 7:30 PM

Rhwydweithio/Networking


Rhwydweithio ar ôl y ddarlith. Post-lecture networking.

Good to know

Highlights

  • 2 hours
  • In person

About this event

*English below

Olivia Neen, Tiwtor Sgiliau Iaith Gymraeg ac Academaidd 

Cefndir:

Mae’r ddarlith hon yn archwilio arwyddocâd yr iaith Gymraeg, ei sylfeini hanesyddol a diwylliannol, a nod Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o gyrraedd un miliwn o siaradwyr.

Yn seiliedig ar ymchwil diweddar, mae’r sesiwn yn tynnu sylw at brofiadau pobl ifanc a’u safbwyntiau ynghylch addysg Gymraeg, ac mae’n archwilio rôl hunaniaeth, addysg a chymuned wrth siapio caffael iaith.

Mae gwerth y Gymraeg yn y gweithle modern hefyd yn cael ei ystyried, ochr yn ochr ag awgrymiadau ymarferol ar gyfer sut y gall unigolion ac addysgwyr gyfrannu at dwf yr iaith. Mae’r ddarlith yn dod i ben gyda neges eglur: Mae’r Gymraeg yn eiddo i ni i gyd - byddwch yn rhan o’i dyfodol.

Cefndir y siaradwr:

Mae Olivia yn Diwtor Sgiliau Iaith Gymraeg ac Academaidd ym Mhrifysgol Wrecsam, sy’n ymrwymedig i godi hyder myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg, gan gefnogi eu datblygiad academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, a chyfoethogi diwylliant Cymraeg y Brifysgol.

Yn y ddarlith hon, mae Olivia’n rhannu sylwadau craff yn seiliedig ar dystiolaeth ar rôl yr iaith Gymraeg yn llunio hunaniaeth, yn rhoi hwb i gyflogadwyedd a meithrin cydlyniad cymunedau. Mae’r sesiwn hon yn tynnu sylw at sut y gall ymgysylltiad ar y cyd - ar draws addysg, busnes, a bywyd cyhoeddus helpu i gynnal iaith a diwylliant Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Olivia Neen, Welsh Language Skills and Academic Tutor

About:

This lecture explores the significance of the Welsh language (Cymraeg), its historical and cultural foundations, and the Welsh Government’s Cymraeg 2050 goal of reaching one million speakers.

Based on recent research, the session highlights young people’s experiences and views of Welsh language education, and examines the role of identity, education, and community in shaping language acquisition.

The value of Welsh in the modern workplace is also considered, alongside practical suggestions for how individuals and educators can contribute to the language’s growth. The lecture concludes with a clear message: Cymraeg belongs to us all – be part of its future.

About the speaker:

Olivia is a Welsh Language and Academic Skills Tutor at Wrexham University, dedicated to building students’ confidence in using Cymraeg, supporting their academic development through the medium of Welsh, and enriching the University’s Welsh language culture.

In this lecture, Olivia shares evidence-based insights into the role of the Welsh language in shaping identity, boosting employability, and fostering community cohesion. The session highlights how collective engagement—across education, business, and public life—can help sustain the Welsh language and culture for future generations.

Frequently asked questions

*English below* A allaf hepgor y rhwydweithio a chyrraedd mewn pryd ar gyfer y ddarlith?

Wrth gwrs! Sicrhewch, fodd bynnag, eich bod yn cyrraedd ar amser er mwyn osgoi colli dechrau’r ddarlith.

A fydd unrhyw fwyd a diod am ddim ar gael?

Bydd! Bydd bwffe oer / dewis o frechdanau ar gael ynghyd ag amrywiaeth o de, coffi, dŵr a gwin.

Oes yna ddigonedd o le parcio am ddim?

Oes. Y fynedfa rwyddaf yw Ffordd yr Wyddgrug, ac mae digonedd o fannau parcio am ddim, yn ogystal â mannau parcio i’r anabl ger y fynedfa.

A yw’r ystafell yn hygyrch?

Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod pob ystafell ddarlithio’n hygyrch, ond os oes gennych anghenion penodol, cysylltwch â ni ymlaen llaw fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn darparu ar eu cyfer.

Ni allaf fod yn bresennol, oes recordiad o’r ddarlith?

Oes wir! Byddwn yn uwchlwytho’r fideo a’r cyflwyniad toc ar ôl y digwyddiad. Anfonwch e-bost i researchoffice@wrexham.ac.uk os hoffech i ni anfon e-bost atoch pan fydd y recordiad yn barod.

Can I skip the networking and just arrive in time for the lecture?

Absolutely! Just make sure you arrive in time as you won't want to miss the start of the lecture.

Will there be free food and drink?

Yes! There will be a cold buffet / sandwich selection alongside a variety of teas, coffee, water, and wine.

Is there plenty of free parking?

Yes. The easiest entrance is Mold Road, and there are plenty of free parking spaces, as well as some disabled spaces near the entrance.

Is the room accessible?

We try to ensure all lecture rooms are accessible, but if you have specific needs, please contact us beforehand so we can make sure we accommodate them.

I can't make it, is the lecture recorded?

Yep! We will upload the video and presentation shortly after the event. Please email researchoffice@wrexham.ac.uk if you would like us to email you when the recording is ready.

Organised by

Free
Oct 20 · 17:30 GMT+1