Adnoddau ar-lein i helpu'ch busnes | Online tools to boost your business
Event Information
About this Event
MI FYDD Y SESIWN HON YN CAEL EI GYNNAL YN SAESNEG AR-LEIN. Mae yna ddogfennau Cymraeg ar gael os oes angen.
THIS SESSION WILL BE DELIVERED IN ENGLISH ONLINE. Welsh documents are available upon request.
------------------------------------------------------
Ymunwch â Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a Mark Oakman o WebAdept, i archwilio amrywiaeth o adnoddau y gallwch eu defnyddio ar-lein i hybu'ch marchnata digidol.
P'un a oes gennych fenter ar yr ochr neu fusnes ar-lein yn barod, bydd y weminar hon yn trafod amrywiaeth o wefannau a chymwysiadau a all eich cynorthwyo chi i greu cynnwys da. Bydd yr adnoddau hyn yn gymorth i hyrwyddo'ch cyfryngau cymdeithasol a'ch gwefan.
Ymunwch â ni am gyfres o ddigwyddiadau marchnata digidol ym mis Chwefror a Mawrth.
Beth fydd dan sylw yn y digwyddiad?
Bydd y tîm yn WebAdept yn ymdrin â'r canlynol:
- Adnoddau ar-lein sydd ar gael am ddim i helpu'ch busnes lwyddo ar-lein.
- Adnoddau i'ch helpu chi i fonitro gweithgarwch eich cystadleuaeth
- Adnoddau mae arbenigwyr marchnata digidol yn eu defnyddio yn ddyddiol
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy?
Mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n ystyried opsiynau i wella eu marchnata ar-lein, boed ydynt yn fusnes newydd neu'n fusnes bach.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gweithdai Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn agored i bawb, ond fe'u hanelir yn bennaf at fusnesau newydd a busnesau yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Cefndir y siaradwr
Yn wreiddiol o Sir Benfro, bu Mark yn gweithio i WebAdept yn Nhyddewi am 3 blynedd ar ôl graddio yn 2007. Wedi iddo symud i Gaerdydd, ymunodd Mark â WalesOnline, lle bu'n gweithio am chwe blynedd, a'i swydd fwyaf ddiweddar yno oedd Cyfarwyddwr Digidol Masnachol cyn ail-ymuno â WebAdept ar ddiwedd 2019 gyda'r her gyffrous o ehangu'r busnes o'u canolfan newydd yng Nghaerdydd.
Mae gan Mark gyfoeth o wybodaeth ddigidol i'w rhannu, ac yntau wedi gweithio gyda llawer o BBaCh yng Nghymru yn ogystal â rhan fwyaf o frandiau mwyaf adnabyddus Cymru megis Go Compare, Admiral, URC, Croeso Cymru, Y Bathdy Brenhinol, The Principality, Chwaraeon Cymru, Folly Farm a Brains ar eu gweithgarwch marchnata digidol.
********
Join Focus Carmarthen Enterprise Hub and Mark Oakman from WebAdept, to explore a variety of tools you can use online to boost your digital marketing.
Whether you have a side hustle or a business already online, this webinar will run through a variety of websites and apps that can help you create good content. These tools will help boost your social media and website.
Join us for a series of digital marketing events in February and March.
What will the event cover?
The team at WebAdept will cover:
- Free online tools available to help your business succeed online
- Tools to help you monitor your competition’s activity
- Tools that digital marketing experts use on a daily basis
Who is this workshop for?
This workshop is ideal for anyone who is looking at options to improve their online marketing, whether they are a start-up or small businesses.
Additional Information
Focus Carmarthen Enterprise Hub workshops are open to all, however are primarily aimed at start-ups and businesses in Carmarthenshire and Pembrokeshire.
About the speaker
Originally from Pembrokeshire, Mark worked for WebAdept in St Davids for 3 years after graduating back in 2007. After relocating to Cardiff, Mark joined WalesOnline, where he worked for six years in total, most recently as their Commercial Digital Director before re-joining WebAdept at the end of 2019 with the exciting challenge of growing the business from their new Cardiff base.
Mark has a wealth of digital knowledge to share having worked with many Welsh SME's and most of Wales' best known brands such as Go Compare, Admiral, The WRU, Visit Wales, The Royal Mint, The Principality, Sport Wales, Folly Farm and Brains on their digital marketing activity.
Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu gofod arloesol i ddeori a sbarduno busnesau newydd a’r rhai sy'n ehangu. Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru
Mae'r digwyddiadau a ddarperir neu a gynhelir gan raglen Hybiau Menter Ffocws Llywodraeth Cymru am ddim ac yn agored i bobl o bob oedran, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae'r niferoedd yn brin a disgwyliwn alw mawr am lefydd, felly archebwch yn gynnar i ddiogelu'ch lle.
Focus Enterprise Hubs are an innovative space to incubate and accelerate new, and growing businesses. Focus Newtown and Focus Carmarthen Enterprise Hubs are part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government
Events delivered or hosted by the Focus Enterprise Hubs programme for the Welsh Government are free and open to all ages but must be booked in advance. Please be advised that numbers are limited and we expect high demand for places, so book early to secure your place.
Gwelir isod am ein datganiad preifatrwydd
https://businesswales.gov.wales/cy/busnes-cymru-datganiad-preifatrwydd
Our Privacy Policy can be found here
https://businesswales.gov.wales/business-wales-operational-privacy-statement