ADY - digwyddiad rhanbarthol // ALN - regional event 2017

Registrations are closed

Cofrestru ar-lein bellach wedi cau. / Online registration has now closed.

ADY - digwyddiad rhanbarthol // ALN - regional event 2017

By Welsh Government

Location

Lleoliadau amrywiol / Various locations

United Kingdom

Description

______________________________________________________________________________

Digwyddiad rhanbarthol y rhaglen i drawsnewid y system Anghenion Dysgu Ychwanegol 2017

The Additional Learning Needs (ALN) transformation programme regional event 2017

______________________________________________________________________________

[Cymraeg]

Cyflwynwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2016.

Un rhan o raglen ehangach i drawsnewid y system ADY yw’r Bil, er mwyn gwella disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau plant a phobl ifanc ag ADY. Bydd y system newydd:

  • yn sicrhau bod pob dysgwr ag ADY yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn gallu cyflawni eu potensial

  • yn gwella’r broses o gynllunio a darparu cymorth i ddysgwyr 0 i 25 oed sydd ag ADY, gan roi lle canolog i anghenion, safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r dysgwyr

  • yn canolbwyntio ar bwysigrwydd nodi anghenion yn gynnar a sefydlu ymyriadau amserol ac effeithiol a gaiff eu monitro a’u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir.


Cofrestrwch nawr i gadw lle YN RHAD AC AM DDIM mewn digwyddiad sy’n gyfleus i chi.


Bydd hwn yn gyfle ichi gael gwybod mwy am y rhaglen i drawsnewid y system ADY, cael gwybodaeth werthfawr ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gyflwynwyd yn ddiweddar, rhannu eich safbwyntiau ar yr opsiynau o ran gweithredu’r newidiadau deddfwriaethol, a rhwydweithio gydag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol sy’n helpu i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.


Pwy ddylai fynd?

Rhieni, athrawon, penaethiaid, llywodraethwyr, cydlynwyr AAA, seicolegwyr addysg, swyddogion awdurdodau lleol, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymarferwyr y blynyddoedd cynnar ac addysg bellach.

I gael gwybod mwy am y rhaglen i drawsnewid y system ADY, ewch i wefan Llywodraeth Cymru

I gael gwybod mwy am y Bil, ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Os oes gyda chi gwestiynau, anfonwch e-bost i senreforms@cymru.gsi.gov.uk


Lleoliadau

Caerfyrddin: 28 Chwefror 09:00-12.30 a 13:00-16:30

- Canolfan Halliwell, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EP

Casnewydd: 02 Mawrth 09:00-12.30 a 13:00-16:30

- Gwesty’r Celtic Manor, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd NP18 1HQ

Llandudno: 07 Mawrth 09:00-12.30 a 13:00-16:30

- Venue Cymru, Ffordd Gwynedd, Llandudno LL30 1BB

Caerdydd: 09 Mawrth 09:00-12.30 a 13:00-16:30

- Canolfan gynadledda Consortiwm Canolbarth y De,Tŷ Dysgu Cefn Coed, Caerdydd CF15 7QQ


Agenda

09.00/13:00 Cofrestru

09.30/13:30 Cyflwyniad i’r rhaglen i drawsnewid y system Anghenion Dysgu Ychwanegol

10:10/14:10 Briff Technegol ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

10:45/14:45 Egwyl te a choffi

11:00/15:00 Gweithdy ar yr ymgynghoriad ar opsiynau o ran gweithredu’r Bil

12:00/16:00 Sesiwn Holi ac Ateb

12:30/16:30 Cloi



[English]


The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill was introduced into the National Assembly for Wales on 12 December 2016.

The Bill is one part of a wider ALN transformation programme to improve the expectations, experiences and outcomes for children and young people with ALN.

The transformed system will:

  • ensure that all learners with ALN are supported to overcome barriers to learning and can achieve their full potential

  • improve the planning and delivery of support for learners from 0 to 25 with ALN, placing learners’ needs, views, wishes and feelings at the heart of the process

  • focus on the importance of identifying needs early and putting in place timely and effective interventions which are monitored and adapted to ensure they deliver the desired outcomes.


Register now to secure your FREE place at an event near you.


At the event you will get to find out more about the ALN transformation programme, gain valuable knowledge on the recently introduced Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill, share your views on the options for implementing the legislative changes and network with a wide range of professionals involved in supporting children and young people with ALN.


Who should attend?

Parents, teachers, head teachers, governors, SENCOs, educational psychologists, local authority officers, social workers, health professionals and early years and further education practitioners.

For more information about the ALN transformation programme visit www.gov.wales/aln

For more information on the Bill visit the National Assembly for Wales website.

For any questions please email senreforms@wales.gsi.gov.uk


Locations

Carmarthen: 28 February 09:00-12:30 and 13:00-16:30

- Halliwell Centre, College Road, Carmarthen SA31 3EP

Newport: 02 March 09:00-12:30 and 13:00-16:30

- Celtic Manor Resort, Coldra Woods, Newport NP18 1HQ

Llandudno: 07 March 09:00-12:30 and 13:00-16:30

- Venue Cymru, Gwynedd Road, Llandudno LL30 1BB

Cardiff: 09 March 09:00-12:30 and 13:00-16:30

- CSC conference centre, Tŷ Dysgu Cefn Coed, Cardiff CF15 7QQ

Agenda

09.00/13:00 Registration

09.30/13:30 An Introduction to the Additional Learning Needs transformation programme

10:10/14:10 Technical Briefing on the Additional Leaning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill

10:45/14:45 Break for Tea and Coffee

11:00/15:00 A workshop on the consultation on options for implementation of the Bill

12:00/16:00 Question and Answer session

12:30/16:30 Close


Organised by

Sales Ended