Ar Lan y Môr - perfformiad byr gan Rhiannon Mair
Refund policy
Contact the organiser to request a refund.
Eventbrite's fee is nonrefundable.
Eistedda Mam ger y ffenest yn y parlwr. Mae lefel y mor yn codi ac mae’r pobl yn diflannu...
About this event
Dyma’r trydydd perfformiad byr yn nhymor newydd Volcano, a gomisiynwyd yn arbennig yng nghyfres ‘Solo Duets for the Future’. Caiff ei gynnal yn Y Cwpwrdd yn Theatr Volcano.
Mam (Mam-gu Rhiannon, 89 oed) yw un o’r preswylwyr olaf sydd yn byw ar y stryd, ar lan y mor. O’r 18 ty sydd yno, mae 15 ohonynt yn dai gwyliau. Eistedda Mam ger y ffenest yn y parlwr. Mae's llanw yn troi. Mae’r pobl yn diflannu.
Beth yw dyfodol y stryd, sef ei byd bach hi? Beth yw dyfodol ardaloedd glan mor gorllewin a gogledd Cymru? Sut mae tai haf yn broblematig i iaith a diwylliant bro? Ydy hyn yn bwysig?
Bydd Rhiannon yn rhoi llais i rai o’r materion hyn mewn perfformiad unigol a fydd yn cyfuno dulliau adrodd stori aml-haenog drwy iaith, corff, a thrwy ddefnyddio geiriau ar bapur.
Mae Rhiannon Mair yn ymarferydd llawrydd ac ymchwilydd creadigol. Mae hi wedi gweithio gyda Arad Goch, The Wooster Group, Eddie Ladd ac eraill. Yn gyfredol, mae hi ar fin gweithio fel artist arweiniol i brosiect ‘Pair’ i Theatr Genedlaethol Cymru, fydd yn uno artistiaid mewn cynllun hyfforddi creu theatr drwy dechnegau dyfeisio. Mae hi’n caru archwilio hunaniaeth, Cymreictod, safle, defod, a menywod wrth greu gwaith. Mae hi wedi gweithio mewn sawl arddull, ond mae hi’n cael ei denu at greu gwaith yn bennaf drwy ddyfeisio. Mae gan Rhiannon PhD sydd yn dwyn y teitl ‘Y Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad.
Gwelwch y perfformiadau eraill yn y gyfres Solo Duets for the Future.
_______________________________________________________________________________________________________________________
The third of Volcano’s new season of specially-commissioned original short performances in the Solo Duets for the Future series. Performed in the The Cupboard at Volcano Theatre.
Mam (Rhiannon’s Grandmother, aged 89) is one of the last residents living on her street, by the north Pembrokeshire coast. There are eighteen houses, fifteen of which are holiday homes. Mam sits by the window in the parlour. The sea ebbs and flows. The people are disappearing.
What is the future of the street, of this part of the world? What is the future of the coastal areas of west and north Wales? How do holiday homes become problematic for a community’s language and culture? Does this matter?
Rhiannon will give voice to some of these issues in a solo performance that will combine multi-layered storytelling methods through language, body, and the use of words on paper.
Rhiannon is a freelance practitioner and creative researcher. She has worked with Arad Goch, The Wooster Group, Eddie Ladd and others. Currently, she is set to work as lead artist for Theatr Genedlaethol Cymru’s ‘Pair’ project, which will bring artists together to co-create using devising techniques. She loves exploring identity, Welshness, place, ritual, and women when creating work. She has worked in many styles but is especially drawn to creating work through devising. Rhiannon has a (Welsh language) PhD which looks at the Welsh Chapel, Community and Performance.
Check out the other Solo Duets for the Future.