Awydd Cyhoeddi Llyfr yn y Gymraeg?
Event Information
About this Event

PWYSIG: Cefnogir CULT Cymru gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, Llywodraeth Cymru - felly mae ein gweithdai a digwyddiadau ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru yn unig.
IMPORTANT: CULT Cymru is supported by the Welsh Government's Wales Union Learning Fund therefore our courses are only available to those living in Wales.
Os yw arian neu broblem mynediad oherwydd e.e. anabledd yn rhwystr i chi allu ymuno â gweithgareddau CULT Cymru cysylltwch â siwan@bectu.org.uk er mwyn trafod eich gofynion yn gyfrinachol
If money or access issues due to e.g. a disability is a barrier to you being able to join CULT Cymru activities please contact siwan@bectu.org.uk to discuss your requirements confidentially
**Bilingual text - scroll down for English language
Bydd y sesiwn yma yn cael ei gynnal yn Gymraeg/This session will be held in Welsh
Ar gyfer pwy?
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyhoeddi llyfr o unrhyw fath yn y Gymraeg, boed yn ffuglen neu’n ffeithiol.
Cynnwys
Awydd Cyhoeddi Llyfr?
Oeddech chi’n gwybod bod Cyhoeddwyr yng Nghymru yn chwilio am ystod eang o lyfrau ar hyn o bryd, o bamffledi ffeithiol i nofelau i oedolion a llyfrau i blant?
Mae llawer yn breuddwydio am gyhoeddi nofel y ganrif, ac efallai fod honno yn y drôr gennych chi, ond mae angen awduron plant, awduron pobl ifanc, pobl sy'n gallu casglu ffeithiau a'u cyflwyno mewn ffordd ddiddorol.
Yn ystod y sesiwn anffurfiol yma, bydd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi, Cyngor Llyfrau Cymru, yn rhoi trosolwg o’r diwydiant yng Nghymru, gan gynnwys :
- Gorolwg o'r Cyngor Llyfrau a'r gefnogaeth mae'n gallu ei gynnig i awduron newydd o bob math, o ganfod cyhoeddwr, i ddylunio cloriau, a phrawf ddarllen, i hyrwyddo llyfrau, siopau llyfrau a dosbarthu'r llyfr o shed i siop.
- Y mathau o lyfrau sy ar gael: Mae'r diwydiant cyhoeddi angen llawer o wahanol fathau o ysgrifenwyr a golygyddion.
- Gorolwg o'r cyhoeddwyr: mae nifer o gyhoeddwyr Cymraeg i gael ac mae pob un yn chwilio am rhywbeth ychydig yn wahanol.
- Pa sgiliau sy'n trosglwyddo: mae gan awduron a golygyddion sy a phrofiad o weithio ym myd teledu a radio lawer o sgiliau gwerthfawr i'w cynnig i'r byd cyhoeddi llyfrau ... ydyn nhw gennych chi?
- Llyfrau Parod: Os oes gennych chi lyfr yn y drôr, beth yw'r ffordd orau o fynd o chwmpas ei chyhoeddi hi?
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chael cyngor bellach yn ystod y sesiwn.
Arweinydd y Sesiwn
Arwel Jones yw Pennaeth Datblygu Cyhoeddi, Cyngor Llyfrau Cymru. Mae'r adran yn gyfrifol am ddosbarthu grantiau i'r diwydiant cyhoeddi, o'r awduron i'r golygyddion a'r argraffwyr ac am arwain datblygiadau newydd yn y maes.
Yn awdur ei hunan, mae Arwel wedi ysgrifennu sawl llyfr am ei brofiadau yn teithio i lefydd egsotig.
==
Who is it for?
Anyone interested in publishing a book of any kind in Welsh, whether fiction or non-fiction.
Contents
Ever thought of publishing a book in Welsh?
Did you know that Publishers in Wales are currently looking for a wide range of books, from non-fiction pamphlets to adult novels and children's books?
Many dream of publishing a novel of the century, and you may have that in the drawer, but you need children's authors, young writers, people who can gather facts and present them in an interesting way.
During this informal session, Arwel Jones, Head of Publishing Development, Cyngor Llyfrau Cymru, will give an overview of the industry in Wales, including:
- An overview of the Books Council and the support it can offer new writers of all kinds, from finding a publisher, to designing covers, and proofreading, to promoting books, bookshops and distributing the book from shed to shop .
- Types of books available: The publishing industry needs many different types of writers and editors.
- Publisher overview: there are a number of Welsh language publishers available and each is looking for something a little different.
- What skills transfer: writers and editors with experience in television and radio have many valuable skills to offer to the book publishing world ... do you have them?
- Books that are ready to go: If you have a book in the drawer, what is the best way to get around publishing it?
There will be an opportunity to ask questions and get further advice during the session.
Session Leader
Arwel Jones is Head of the Publishing Development, Cyngor Llyfrau Cymru. As an author himself, Arwel has written several books about his experiences traveling to exotic places.
CULT CYMRU
Mae gweithdai CULT Cymru yn cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar ac anfygythiol ble bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chodi materion yn ystod y dydd.
CULT Cymru workshops are delivered in a friendly and non-threatening environment where participants will have the opportunity to ask questions and raise issues during the day.
Diogelu Data
Ariennir Hyfforddiant Sector BECTU yng Nghymru yn rhannol gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru trwy brosiect yr undebau creadigol ar y cyd CULT Cymru. Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer y cwrs neu ddigwyddiad hyfforddiant hwn, rydych chi'n cytuno i rannu eich data personol gyda'r arianwyr fel rhan o delerau BECTU ar gyfer derbyn y cyllid. Defnyddir y data er mwyn dangos canlyniadau ac allbynnau yn unig ac fe'i cedwir yn ddiogel am gyfnod o 10 mlynedd, fel y nodir yn y cytundebau ar gyfer y cyllid.
Yn ogystal, mae Prospect/BECTU yn defnyddio’r data hwn i ddanfon gwybodaeth am ddigwyddiadau a hyfforddiant BECTU/CULT Cymru yn y dyfodol; eich diweddaru chi gyda newyddion, adnoddau a chyhoeddiadau ac i gysylltu gyda chi ar gyfer unrhyw ymchwil fyddwn ni am gynnal i’r diwydiant. Ni fyddwn yn rhannu neu ddefnyddio eich data heb eich caniatâd chi. Os gwelwch yn dda, arddangoswch eich bod chi’n hapus i BECTU/CULT Cymru gysylltu gyda chi yn y moddau yma trwy ticio ‘ie’ yn yr adran ‘Eich gwybodaeth chi' ar ddiwedd y ffurflen archebu.
Sut i gwyno neu wyrdynnu’ch caniatâd
Os nad ydych chi am dderbyn gohebiaeth bellach gan BECTU/CULT Cymru gallwch dynnu eich enw yn ôl trwy gysylltu gyda siwan@bectu.org.uk
Pe baech ag unrhyw gwestiynau neu bryderon am y data rydym ni yn cadw a sut yr ydym yn ei ddefnyddio, os gwelwch yn dda yn y man cyntaf cysylltwch gydag Adran Hyfforddiant BECTU/CULT Cymru. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cwyno am ddefnydd neu gasglu eich manylion gan yr Adran Hyfforddiant ei hun yna gallwch wneud hynny trwy ebostio’r Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data Tracey Hunt ar datacompliance@prospect.org.uk
Data Protection
Prospect's BECTU Sector Training in Wales is partly funded by the Welsh Government’s Wales Union Learning Fund via the joint-union CULT Cymru project. By registering for this training course or event, you are accepting that your personal data will be shared with the funder as part of BECTU’s requirements to receive the funding. The data is used only to show outcomes and outputs and is securely maintained for a period of 10 years, as stated in contracts for the funding.
In addition, Prospect/BECTU uses this data to send you information about future BECTU/CULT Cymru events and training courses, update you on news, resources and publications and contact you for any future research we may conduct into the industry. We will never use or share your data without your permission. Please indicate that you are happy for BECTU/CULT Cymru to contact you in this way by ticking yes under 'Your information' at the end of the booking form.
How to withdraw your consent or make a complaint
If you no longer wish to receive communications from BECTU/CULT Cymru you can withdraw your consent by contacting the siwan@bectu.org.uk
If you have any questions or concerns about the data we hold and how we use it, please contact the BECTU/CULT Cymru Training Department in the first instance. However, if you wish to make a complaint about the Training Department's collection or use of your data, you are able to do so by contacting the GDPR Compliance Officer Tracey Hunt on datacompliance@prospect.org.uk
Polisi Canslo ac Ad-daliadau:
Bydd ad-daliad llawn yn cael ei rhoi i gynrychiolwyr sy’n canslo o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad. O fewn y bythefnos cyn y digwyddiad, oni bai ein bod ni’n gallu dod o hyd i rywun arall i gymryd eich lle, ni fyddem yn gallu rhoi ad-daliad. Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib os na fyddwch yn gallu mynychu.
Cancellation and Refunds Policy
A full refund will be issued to delegates who cancel at least 2 weeks prior to the event. Delegates who cancel within the 2 week period will not be eligible for a refund unless we are able to find someone else to take their place. Please let us know as soon as possible if you find you're no longer able to attend the workshop.