BBC Wales Apprenticeships Webinar / Gweminar Prentisiaethau’r BBC Cymru
Find out more about apprenticeships at BBC Wales / Darganfyddwch mwy am brentisiaethau yn BBC Cymru
Date and time
Location
Online
About this event
Our team will be on-hand to share information about all of the entry level and apprenticeship opportunities we currently have available. We'll also be able to guide you through the application process and give you some hints and tips on how to make sure your application hits the spot!
You'll be able to find out more about all of our schemes which cover all aspects of our work including roles in Business, Technology, Production, Journalism, Digital, Data, Finance, Marketing, Production Management, Law, Taxation and Human Resources.
Current, and former, apprentices will share their experiences first-hand of what it's like to be an apprentice in the BBC as well as an insight of what it is like to work for the world's largest public service broadcaster.
All of our apprenticeships at the BBC include formal off-the-job training, delivered by an approved external training provider, along with work-based placements. While you're on programme, you will earn a salary, gain a recognised apprenticeship qualification and have access to lots of training and development opportunities and on-the-job workplace experience. Throughout your time on the apprenticeship you'll be supported by dedicated scheme specialists and line managers in the business.
You could be working to coordinate a film shoot; or helping set up the technical equipment and technology for outside broadcasts for major events like the Coronation; you might be analysing audience figures to work out where we can do more for our audiences, or you may be creating our latest digital content and with the latest cutting edge technologies.
If any of those options sound like they might be just the thing for you, then what are you waiting for? This could be the next step into your future.
_ __________________________________________________________________________________________________
Bydd ein tîm wrth law i rannu gwybodaeth am yr holl gyfleoedd lefel mynediad a phrentisiaethau sydd ar gael gennym ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn gallu eich tywys drwy’r broses ymgeisio a rhoi ambell awgrym i chi ar sut mae gwneud yn siŵr bod eich cais yn taro deuddeg!
Byddwch yn gallu cael rhagor o wybodaeth am ein holl gynlluniau sy’n ymwneud â phob agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys swyddi ym meysydd Busnes, Technoleg, Cynhyrchu, Newyddiaduraeth, Digidol, Data, Cyllid, Marchnata, Rheoli Cynyrchiadau, y Gyfraith, Treth ac Adnoddau Dynol.
Bydd prentisiaid presennol a chyn-brentisiaid yn rhannu eu profiadau nhw am sut beth yw bod yn brentis yn y BBC, yn ogystal â dealltwriaeth o sut beth yw gweithio i ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd.
Mae ein holl brentisiaethau yn y BBC yn cynnwys hyfforddiant ffurfiol y tu allan i’r gwaith, a ddarperir gan ddarparwr hyfforddiant allanol cymeradwy, ynghyd â lleoliadau gwaith. Tra byddwch ar y rhaglen, byddwch yn ennill cyflog, yn ennill cymhwyster prentisiaeth cydnabyddedig ac yn cael cynnig llawer o gyfleoedd hyfforddi a datblygu, yn ogystal â chael profiad yn y gweithle. Drwy gydol eich cyfnod ar y brentisiaeth, byddwch yn cael eich cefnogi gan arbenigwyr cynllun penodol a rheolwyr llinell o fewn y busnes.
Gallech chi fod yn gweithio i gydlynu’r gwaith ffilmio; neu helpu i sefydlu’r offer technegol a’r dechnoleg ar gyfer darllediadau allanol ar gyfer digwyddiadau mawr fel y Coroni; efallai y byddwch chi’n dadansoddi ffigurau cynulleidfaoedd i weld lle gallwn ni wneud mwy ar gyfer ein cynulleidfaoedd, neu efallai y byddwch chi’n creu ein cynnwys digidol diweddaraf gyda’r technolegau arloesol diweddaraf.
Os yw unrhyw un o’r opsiynau hynny’n apelio atoch chi, yna ewch amdani! Gallai hwn fod y cam nesaf tuag at eich dyfodol.