Y Tu Hwnt i'r Aur: Dyfodol Bwyd yng Nghaerdydd
Ymunwch â Bwyd Caerdydd a'r sefydliadau, busnesau ac unigolion sy'n gweithio i wneud Caerdydd yn un o'r Lleoedd Bwyd mwyaf Cynaliadwy yn y DU. Bydd y diwrnod hwn yn dathlu’r cynnydd aruthrol a wnaed ers 2014, a arweiniodd at Gaerdydd yn ennill gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2024.
Ymunwch â ni wrth i ni edrych ymlaen at y degawd nesaf, gan ymchwilio i'r hyn y mae pobl a phartneriaid yng Nghaerdydd eisiau ei weld erbyn 2035 o ran bwyd cynaliadwy - a sut y gallem gyrraedd y nod.
Caiff y mynychwyr gyfle i glywed hanes prosiectau ysbrydoledig, cwrdd â phobl sy'n arwain newidiadau a chael cyfle i ddylanwadu ar y cyfeiriad dros y 10 mlynedd nesaf mewn perthynas â bwyd yng Nghaerdydd.