Boost your speaking confidence

Boost your speaking confidence

By PGR Development & Training Team Swansea University

Hybu eich Hyder i Siarad

Date and time

Location

Swansea University, Singleton Campus, Faraday H

Swansea University Singleton Campus Swansea SA2 8PP United Kingdom

Good to know

Highlights

  • In person

About this event

Community • Other

Do you feel nervous when speaking in front of an audience? Want to enhance your communication skills for presentations, talks, or everyday conversations? The Boost Your Speaking Confidence workshop, led by public speaking coach and director Charlotte Lewis, is designed to help you overcome these challenges and speak with greater ease and impact. Through interactive activities and real-time feedback, you'll gain practical techniques to speak with confidence in a variety of settings. After 90mins you'll swap feelings of doubt and discomfort for confidence and clarity, feeling more empowered to express yourself and seize new opportunities.

I know from first-hand experience what it's like to confront speaking nerves and low confidence, and these tools have changed my life for the better.

Come ready to participate, bringing any specific speaking scenarios you'd like support with. And if you’d like a little more insight into who I am and how I support people my podcast is ’Speaker S.O.S!’ available on most streaming platforms.

Trainer bio:

Charlotte Lewis is a public speaking consultant & coach who helps clients to look, sound & feel more natural when taking on speaking opportunities. Her clients have included presenters, performers & influencers, business owners, entrepreneurs and campaigners. Charlotte also co-hosts the podcast ’Speaker S.O.S!’ with presenter & voice-over artist Luke Davies.

Charlotte's background is in theatre, having worked as an international director for nearly a decade. After graduating from the prestigious Directing MFA at Birkbeck College London, she has collaborated with The Manchester Royal Exchange, National Theatre Wales, Common Wealth Theatre, The Artichoke Trust, The Southbank Centre, The Wales Millennium Centre, White Horse in Shanghai, Tuida in South Korea & Meta Arts in India and more.

More recently she has directed brand films, music videos, and audio installation art featured across community projects based in spaces such as Penrhys and Roath. Charlotte is currently on the UK tour of The Tigerface Show.

After suffering from public speaking fears and seeing how it limited her professional and personal opportunities, Charlotte set about creating ways to harness her background in theatre and her experiences as a qualified yoga and breathwork practitioner to overcome her anxiousness. After finding success with these techniques, Charlotte started her own business to share these practices with more people, helping them reach their potential, connect with their voice and expand the opportunities available to them.

Ydych chi'n teimlo'n nerfus wrth siarad o flaen cynulleidfa? Eisiau gwella eich sgiliau cyfathrebu ar gyfer cyflwyniadau, sgyrsiau neu sgyrsiau pob dydd? Mae'r gweithdy Hybu eich Hyder i Siarad, dan arweiniad yr hyfforddwr siarad yn gyhoeddus a'r cyfarwyddwr, Charlotte Lewis, wedi'i gynllunio i'ch helpu i oresgyn yr heriau hyn a siarad â mwy o ruglder ac effaith.Drwy weithgareddau rhyngweithiol ac adborth amser go iawn, byddwch yn meithrin technegau ymarferol i siarad yn hyderus mewn amrywiaeth o leoliadau. Ar ôl 90 munud, byddwch yn cyfnewid teimladau o amheuaeth ac anghysur am hyder ac eglurder, gan deimlo'n fwy hyderus i fynegi eich hun a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Rwy'n gwybod o brofiad uniongyrchol sut beth yw wynebu nerfau wrth siarad a hyder isel, ac mae'r adnoddau hyn wedi newid fy mywyd er gwell.

Dewch yn barod i gymryd rhan, gan ddod ag unrhyw senarios penodol o ran siarad yr hoffech chi gael cymorth gyda nhw. Ac os hoffech chi gael ychydig mwy o ddealltwriaeth o bwy ydw i a sut rydw i'n cefnogi pobl fy mhodlediad yw 'Speaker S.O.S!' ac mae ar gael ar y rhan fwyaf o blatfformau ffrydio.

Bywgraffiad yr Hyfforddwr:

Mae Charlotte Lewis yn ymgynghorydd ac yn hyfforddwr siarad yn gyhoeddus sy'n helpu cleientiaid i edrych, swnio a theimlo'n fwy naturiol wrth ymgymryd â chyfleoedd i siarad. Mae ei chleientiaid wedi cynnwys cyflwynwyr, perfformwyr a dylanwadwyr, perchnogion busnes, entrepreneuriaid ac ymgyrchwyr. Mae Charlotte hefyd yn cyd-gyflwyno'r podlediad 'Speaker S.O.S!' gyda'r cyflwynydd a'r artist llais Luke Davies.

Mae cefndir Charlotte ym myd y theatr, ar ôl gweithio fel cyfarwyddwr rhyngwladol am bron degawd. Ar ôl graddio o'r MFA o fri mewn Cyfarwyddo yng Ngholeg Birkbeck Llundain, mae hi wedi cydweithio â Chyfnewidfa Frenhinol Manceinion, Theatr Genedlaethol Cymru, Common Wealth Theatre, Ymddiriedolaeth Artichoke, Canolfan y Southbank, Canolfan Mileniwm Cymru, White Horse yn Shanghai, Tuida yn Ne Korea a Meta Arts yn India a mwy.

Yn fwy diweddar mae hi wedi cyfarwyddo ffilmiau brand, fideos cerddoriaeth, a gosodweithiau celf sain sydd i'w gweld ar draws prosiectau cymunedol mewn mannau fel Penrhys a'r Rhath. Ar hyn o bryd mae Charlotte ar daith The Tigerface Show o amgylch y DU.

Ar ôl wynebu ofnau siarad yn gyhoeddus, a gweld sut y cyfyngodd hynny ar ei chyfleoedd proffesiynol a phersonol, aeth Charlotte ati i greu ffyrdd o fanteisio ar ei chefndir yn y theatr a'i phrofiadau fel ymarferydd ioga a gwaith anadlu cymwysedig i oresgyn ei phryder. Ar ôl cael llwyddiant gyda'r technegau hyn, dechreuodd Charlotte ei busnes ei hun i rannu'r arferion hyn â mwy o bobl, gan eu helpu i gyflawni eu potensial, cysylltu â'u llais ac ehangu'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Organized by

On Sale Sep 17 at 1:00 AM