Y Digwyddiad
Ydych chi'n breuddwydio am droi eich creadigrwydd yn fusnes ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun a dyna pam mae ein rhaglen 8 wythnos ddiddorol yma i'ch helpu chi! 🎨
Ydych chi'n ddylunydd, crefftwr, artist, neu'n angerddol am archwilio llwybr creadigol, mae'r Bootcamp Creadigol PDC wedi’i gynllunio i'ch helpu i ddatgloi’ch potensial, magu hyder, a dechrau troi’ch syniadau’n rhywbeth go iawn! 🚀
Dim syniad busnes clir eto? Dim problem! Byddwn ni'n helpu chi i sbarduno un ar hyd y daith. Ac os byddwch chi'n darganfod nad yw hunangyflogaeth yn hollol addas i chi, mae hynny'n hollol iawn hefyd. Dyma'ch cyfle i archwilio, arbrofi, a darganfod beth sy'n teimlo'n iawn i chi.
Disgwyliwch ysbrydoliaeth, cyngor ymarferol wedi'i deilwra ar gyfer y diwydiannau creadigol, cymuned gefnogol, a dim pwysau o gwbl - dim ond lle i dyfu, dysgu, a chymryd eich cam nesaf yn hyderus! 💪
Mae'r prosiect hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru ac fe'i hariennir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Cymhwysedd
Rhaid i fynychwyr y cwrs hwn fod:
Dros 18 oed
Y Manylion
Bydd y Bootcamp yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru, Campws Trefforest, Canolfan Ymgysylltu Bloc B. Bydd pob sesiwn yn dechrau am 9yb ac yn gorffen erbyn 12pm. Bydd lluniaeth ar gael!
Os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost at hello@welshice.org neu ffoniwch 02920 140 040.
I weld y dudalen hon yn Saesneg cliciwch yma: www.eventbrite.co.uk/e/usw-creative-bootcamp-tickets