Breaking down Barriers - Understanding help-seeking in farming
Overview
(Sgroliwch i lawr i weld y fersiwn Gymraeg)
We are pleased to invite you to join us for an important discussion about help-seeking in the farming community. We'd love the views of farmers of all ages from across Wales and your contributions will feed into a meaningful research project being led by two Welsh young farmers/phsycology students from the University of Staffordshire.
Speakers will include;
- Will Evans, Farmer, Farmers Weekly Columnist and Podcaster
- Neil Ingham, Samaritans Cymru
- Amilia Roberts, Trainee Clinical Psychologist, University of Staffordshire, Researcher @FarmingMindsProject
- Elin Lewis, Lived Experience representative and Doctoral Psychology Student
The core aims of our webinar are to -
- talk about the issues causing stress to the farming community
- get the views of the farming community on stoicism
- disucss the stigma surrounding help-seeking, poor mental health and suicide risk.
There will be time for discussion and questions, and we'd love to hear your views.
Everyone registering for the event will be sent the link to the research project and questionnaires.
You will be sent a Zoom link for the event nearer the time.
Samaritans Cymru exist to reduce the number of people who die by suicide in Wales.
We are committed to helping those who are most at risk of developing poor mental health and suicidality and are strongly focused on the social determinants that affect this risk; the external factors which make life difficult for individuals and communities.
There are many common experiences within the farming community that are very intense and distressing and they can leave people feeling isolated, scared, low and suicidal. Despite their commonality, these experiences are often shrouded in silence and afflicted by stigma and shame.
Research shows that farmers are more likely to have poor mental health compared to the general population but are less likely to get the support they need. Despite this, there hasn’t been enough research in the UK to understand why.
By participating in this webinar, and contributing anonymously to the research project, your views can be heard. By better understanding these factors, the results can help inform understanding and improve support services.
Please feel free to share the Eventbrite link with any friends, family and networks.
Thank you.
______________________________________________________________________________
Dymchwel rhwystrau – deall y broses o geisio cymorth yn y gymuned ffermio
Trosolwg
Deall a dymchwel rhwystrau i’r broses o geisio cymorth yn y gymuned ffermio – Gweminar a thrafodaeth ar-lein
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i ymuno â ni am drafodaeth bwysig ynghylch y broses o geisio cymorth yn y gymuned ffermio. Hoffem glywed barn ffermwyr o bob oed ac o bob cwr o Gymru, a bydd eich cyfraniadau’n bwydo i mewn i brosiect ymchwil ystyrlon dan arweiniad dau ffermwr ifanc o Gymru/myfyrwyr seicoleg o Brifysgol Swydd Stafford.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys
- Will Evans, Ffermwr, Colofnydd yng nghylchgrawn Farmers Weekly a Blogiwr
- Neil Ingham, Samaritans Cymru
- Amilia Roberts, Seicolegydd Clinigol dan hyfforddiant, Prifysgol Swydd Stafford, Ymchwilydd @FarmingMindsProject
- Elin Lewis, cynrychiolydd Profiad Byw a Myfyriwr Seicoleg Doethurol
Nodau craidd ein gweminar yw -
- siarad am y materion sy’n achosi straen yn y gymuned ffermio
- clywed barn y gymuned ffermio am fod yn stoicaidd
- trafod y stigma ynghylch ceisio cymorth, iechyd meddwl gwael a risg hunanladdiad.
Byddwn yn neilltuo amser ar gyfer trafod a holi cwestiynau, a hoffem glywed eich barn chi.
Byddwn yn anfon dolen i’r prosiect ymchwil a holiaduron at bawb sy’n cofrestru am y digwyddiad.
Byddwn yn anfon dolen Zoom atoch ar gyfer y digwyddiad yn agosach at yr amser.
Diben Samaritans Cymru yw lleihau nifer y bobl sy’n marw trwy hunanladdiad yng Nghymru.
Rydym wedi ymrwymo i helpu’r rhai sydd mwyaf agored i’r risg o ddatblygu iechyd meddwl gwael a hunanladdoldeb, ac yn canolbwyntio’n gryf ar y penderfynyddion cymdeithasol sy’n effeithio ar y risg hwn; y ffactorau allanol sy’n gwneud bywyd yn anodd i unigolion a chymunedau.
Mae llawer o brofiadau dwys iawn sy’n achosi trallod yn gyffredin yn y gymuned ffermio, sy’n gallu gwneud i bobl deimlo wedi’u hynysu, yn ofnus, yn isel ac yn hunanladdol. Er eu cyffredinrwydd, yn aml mae’r profiadau wedi’u cuddio mewn tawelwch, ac wedi’u heffeithio gan stigma a chywilydd.
Mae ymchwil yn dangos bod ffermwyr yn fwy tebygol o fod ag iechyd meddwl gwael o gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol, ond yn llai tebyg o gael y cymorth sydd arnynt eu hangen. Er hynny, ni chyflawnwyd digon o waith ymchwil yn y DU i ddeall pam.
Trwy gymryd rhan yn y gweminar hwn, a chyfrannu’n ddienw i’r prosiect ymchwil, bydd eich barn yn cael ei chlywed. Trwy ddeall y ffactorau hyn yn well, gall y canlyniadau helpu i lywio dealltwriaeth a gwella gwasanaethau cymorth.
Gallwch rannu’r ddolen Eventbrite hon gyda ffrindiau, aelodau o’r teulu a rhwydweithiau.
Diolch yn fawr.
Good to know
Highlights
- 1 hour
- Online
Location
Online event
Organized by
Samaritans Cymru
Followers
--
Events
--
Hosting
--