Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg. Cliciwch yma i weld yn Saesneg.
Dull cydweithredol o gefnogi busnesau yn RhCT
Ymunwch â ni am fore o drafodaethau diddorol, cyfleoedd rhwydweithio a chyflwyniadau craff yn y Bore Rhwydweithio Sgyrsiau Busnes RhCT nesaf.
Bydd Bute Energy yn arwain y drafodaeth, gan ganolbwyntio ar y buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, sut mae eu dull caffael yn mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau, a sut maen nhw'n helpu busnesau Cymru a'r gadwyn gyflenwi i wneud y mwyaf o bob cyfle.
Bydd Cyngor RhCT yn cyflwyno Cynllun Ynni Ardal Leol RhCT - map ffordd uchelgeisiol a chynhwysfawr, wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion ynni unigryw'r gymuned wrth gyd-fynd â'r nodau datgarboneiddio ehangach ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
Cysylltwch â busnesau lleol eraill, arweinwyr cymunedol a phartneriaid academaidd; gan gael y cyfle i drafod eich gofynion cymorth a'r heriau sy'n wynebu rhanddeiliaid allweddol a all ddylanwadu ar newid yn y meysydd hyn.
Darperir lluniaeth llawn a brecwast bwffe cyfandirol.
Siaradwyr Allweddol
Catryn Newton, Bute Energy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Matthew Tucker, Coleg y Cymoedd