Set off from Rhyd y Foel on a lively family adventure to Pen y Corddyn Bach, where you’ll explore a rare and precious limestone grassland bursting with wildflowers.
Dive into thrilling bug hunts, discover hidden creatures, and be captivated by magical folklore that brings this unique habitat to life.
Suitable for families with children aged 5 and up, this 3km walk includes regular breaks to keep everyone refreshed and engaged. We’ll head out to Pen y Corddyn Bach and then retrace our steps back to Rhyd y Foel.
The route follows established footpaths, crosses quiet roads, and includes climbing over a stile. The terrain is uneven. There are no toilets on the route. Weat suitable footwear for rough terrain. Bring clothing suitable for the weather and plenty of water to stay comfortable throughout the walk.
Parking: On-road parking is available next to Rhyd y Foel village green and community center.
/
Pryfed, trychfilod a chwedlau - taith gerdded dywys sy'n adds i deuluoed
Ymunwch â’n taith gerdded ni sy’n addas i deuluoedd drwy laswelltir calchfaen prin ger Rhyd y Foel. Cyfle i fwynhau helfeydd pryfed a llên gwerin mewn cynefin sy’n llawn blodau gwyllt!
Byddwch yn dechrau o Ryd y Foel ar antur deuluol fywiog i Ben y Corddyn Bach, lle byddwch chi’n archwilio glaswelltir calchfaen prin a gwerthfawr sy’n gyforiog o flodau gwyllt.
Cewch ymgolli mewn helfeydd pryfed cyffrous, darganfod creaduriaid cudd, a chael eich swyno gan lên gwerin hudolus sy’n dod â’r cynefin unigryw yma’n fyw.
Yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant 5 oed a hŷn, mae’r daith gerdded 3km yma’n cynnwys seibiant rheolaidd i gadw pawb yn llawn egni ac yn mwynhau. Byddwn yn mynd allan i Ben y Corddyn Bach ac wedyn yn dilyn ein camau’n ôl i Ryd y Foel.
Mae’r llwybr yn dilyn llwybrau troed sydd wedi’u sefydlu, yn croesi ffyrdd tawel, ac yn cynnwys dringo dros gamfa. Mae’r tir yn anwastad. Does dim toiledau ar hyd y llwybr. Gwisgwch esgidiau addas ar gyfer tir garw. Dewch â dillad addas ar gyfer y tywydd a digon o ddŵr i fod yn gyfforddus drwy gydol y daith gerdded.
Parcio: Mae lle parcio ar y ffordd ar gael wrth ymyl llain gwyrdd pentref Rhyd y Foel a’r ganolfan gymunedol.