Building A Child Friendly Cardiff & Vale Symposium
Event Information
About this Event
Bydd Symposiwm Creu Caerdydd a’r Fro sy’n Dda i Blant yn dod â phlant a phobl ifanc ynghyd ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol o’r meysydd canlynol: iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, cynllunio, trafnidiaeth, y trydydd sector, academyddion a dinasyddion, er mwyn annog cyfranogwyr i gysylltu hawliau’r plant â’u gwaith ac fel unigolion. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn datgan bod gan bawb sydd dan 18 oed hawliau penodol, ac mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i fyw mewn amodau sy’n eu galluogi i gyrraedd y safon iechyd uchaf bosibl, ac i gael dweud eu dweud am yr hyn sy’n digwydd. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud y CCUHP yn rhan o’i chyfraith ddomestig yn 2011.
Wrth i ni gynllunio. dylunio a datblygu ein cymunedau a’n hamgylcheddau mae’n hollbwysig ystyried hawliau plant i gael eu cynnwys yn y camau cynllunio ac i fyw mewn amgylchedd sydd o fudd i’w hiechyd a lles. Mae datblygu amgylchedd yn cynnwys ystyried addysg, iechyd, hamdden, trafnidiaeth ac anghenion eraill plant a phobl ifanc.
Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar sut gallwn ni ddatblygu mannau sy’n dda i blant, a chefnogi plant a phobl ifanc i fod mewn amgylchedd iach. Yn ystod y digwyddiad, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth a chynyddu gwybodaeth am hawl plant i fod yn iach ac ystyried sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd i greu cymunedau yn y dyfodol.
Y Siaradwyr bydd:
• Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru fydd yn amlinellu agwedd Cymru at drin Hawliau Plant
• Yr Athro Neil Frude o Brifysgol Caerdydd, fydd yn rhannu ei waith ymchwil arloesol i hapusrwydd a lles.
• Dr Jenny Wood, cyd-sylfaenydd A Place in Childhood, fydd yn rhannu ei harbenigedd mewn cynllunio a dylunio sy’n dda i blant
The Building a Child Friendly Cardiff and Vale Symposium will bring together children and young people with a wide range of stakeholders including professionals from health and social care, education, planning, transport, third sector, academia and citizens to encourage delegates to connect children’s rights to their work and as individuals. The United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC) states that everyone under 18 years old has a number of rights, and these include the right live in conditions that enable them to attain the highest standard of health, and to have a say in what happens. Wales became the first country in the UK in 2011 to make the UNCRC part of its domestic law.
As we plan, design and build our communities and environments it is crucial that we consider children’s rights to both being involved in the planning but also their right to live in an environment that benefits their health and wellbeing. The development of the environment includes considering education, health, leisure, transport and other needs of children and young people.
This event will focus on how we can develop child-friendly places and spaces, and support children and young people to have a healthy environment. During the event, delegates will participate in a number of activities designed to raise awareness and increase knowledge of a child’s right to be healthy and consider how we can all work together to design communities in the future.
Speakers will include:
• Sally Holland, Children’s Commissioner for Wales, who will outline the children’s rights approach in Wales
• Prof Neil Frude from Cardiff University, who will share his groundbreaking research on happiness and wellbeing
• Dr Jenny Wood, co-founder of A Place in Childhood, who will share her expertise in child-friendly planning and design
To secure your place at this event, please register here – places are limited and allocated on a first come first served basis.
Any queries, please contact Cardiff and Vale Local Public Health Team on 02921 836505