Calling Powys SMEs: shape the future of energy-saving in Mid Wales
Date and time
Location
Online event
This workshop will investigate what support SMEs in Powys need in place to make energy efficiency improvements and low carbon upgrades.
About this event
Friday 20th May. Online, 10-12pm.
In partnership with EP Connect, Severn Wye are investigating ways that SMEs and installers in Powys can be supported to take advantage of energy efficiency measures and clean energy technology upgrades.
This Spring, we’re running a series of workshops to find out how we can develop this service to support SMEs in the best way possible. Your input is vital, to make sure the service we design is the right fit for businesses in Powys.
Join our online workshop and have your say
We want to better understand what barriers you face when trying to improve the energy efficiency of your business.
Agenda
- Welcome and Introductions
- Exploring barriers to implementing energy efficiency
- Learning from experiences of overcoming barriers
- Possible solutions
- Next steps
The workshop will be an opportunity for us to test drive our research by speaking to organisations who have real world experience of dealing with energy efficiency and the problems faced with implementing these measures in the real world.
Ultimately, we hope to create a single approach for small and medium sized enterprises to save energy and improve energy efficiency with confidence. We want to help organisations across Powys to buy, develop, install, and monitor energy upgrades in a way that is simple and risk free; saving money and making the economy more resilient to future changes in the energy market.
Severn Wye Energy Agency are offering free expert business energy efficiency support for SMEs in Powys, funded by the UK Government through the UK Community Renewal Fund.
___
Yn galw Mentrau Bychain a Chanolig Powys! Lluniwch ddyfodol arbed ynni yn y Canolbarth!
Dydd Gwener yr 20fed o Fai. Ar-lein, 10 y bore tan hanner dydd.
Mewn partneriaeth ag EP Connect, mae Seren Wae yn ymchwilio i ffyrdd y gellir helpu MBCh a gosodwyr Powys i fanteisio ar gamau effeithlonrwydd ynni a gwelliannau technoleg ynni glân.
Y gwanwyn hwn rydym yn cynnal cyfres o weithdai i ganfod sut y gallwn ddatblygu’r gwasanaeth hwn i helpu MBCh yn y ffordd orau bosibl. Mae eich cyfraniad chi’n anhepgor er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a gynlluniwn yn iawn ar gyfer busnesau Powys.
Ymunwch â’n gweithdy ar-lein a chewch ddweud eich dweud
Dymunwn ddeall yn well pa rwystrau rydych yn eu hwynebu wrth geisio gwella effeithlonrwydd ynni eich busnes.
Rhaglen
- Croeso a chyflwyniadau
- Ymchwilio i rwystrau rhag gweithredu effeithlonrwydd ynni
- Dysgu o brofiadau goresgyn rhwystrau
- Atebion posibl
- Camau nesaf
Bydd y gweithdy’n gyfle inni roi prawf ar ein hymchwil trwy siarad â sefydliadau sydd â phrofiad go iawn o ddelio ag effeithlonrwydd ynni a’r problemau a wynebir wrth geisio gweithredu’r camau hyn yn y byd go iawn.
Gobeithiwn greu un arddull ar gyfer mentrau bychain a chanolig yn y pen draw, i arbed ynni a gwella effeithlonrwydd ynni â hyder. Dymunwn helpu sefydliadau ledled Powys i brynu, gosod a chadw golwg ar welliannau ynni mewn ffordd sy’n syml ac yn ddi-berygl, gan arbed arian a gwneud yr economi’n fwy galluog i wrthsefyll newidiadau ym marchnad ynni’r dyfodol.
Mae Asiantaeth Ynni Seren Wae yn cynnig cymorth effeithlonrwydd ynni arbenigol, rhad ac am ddim ar gyfer MBCh ym Mhowys, ag arian Llywodraeth y DU trwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.