Iestyn Tyne yn cyflwyno Carneddi (gyda Simmy Singh ac Irfan Rais) / Iestyn Tyne presents Carneddi (with Simmy Singh and Irfan Rais)
Mae ffotograff Geoff Charles o Carneddog a Catrin Griffith yn ‘edrych dros y bryniau pell’ wrth baratoi i ymadael â’u fferm fynyddig ar lethrau Moel y Dyniewyd yn Eryri yn un o ddelweddau mwyaf eiconig y Gymru Gymraeg. Ar wahân i amgylchiadau trasig sefyllfa’r cymeriadau o’i fewn, daeth y llun i gynrychioli dirywiad ffordd o fyw, iaith a diwylliant yng nghefn gwlad Cymru. Bydd y perfformiad hwn yn cynnwys yr albym cysyniadol Carneddi yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â rhoi rhywfaint o gefndir y gwaith a rhannu deunydd archifol ychwanegol.
Geoff Charles’ photograph of Carneddog and Catrin Griffith looking out ‘across the distant hills’ as they prepared to leave their hill farm in Eryri became one of the Welsh-speaking Wales’ most iconic images. Apart from the tragic circumstances that led to it being taken, the picture came to represent the decline of a way of life, language and culture in rural Wales. This performance will include the conceptual album Carneddi in its entirety, as well as some of the background to the work and sharing of additional archival material.