Ynghylch y digwyddiad hwn
Archebwch un tocyn yn unig ar gyfer bob digwyddiad, os gwelwch yn dda. Bydd y tocyn hwn yn caniatáu i chi a dau berson arall fynychu’r digwyddiad.
Noson Agored Campws Canol y Ddinas CCAF
Ystyried dechrau yn y Coleg? Fel un o golegau mwyaf y wlad, mae miloedd o bobl yn dewis dysgu gyda CCAF bob blwyddyn. Dewch draw i un o'r Nosweithiau Agored i gael gwybod mwy am yr hyn y gall CCAF ei gynnig i chi.
- Sgwrsiwch â'r athrawon
- Edrychwch o'ch cwmpas
- Casglwch ganllaw cwrs
- Dewch i gyfarfod ein timau cymorth gwobrwyedig
- Dysgwch ragor am gyfleoedd ochr yn ochr â'ch astudiaethau, yn cynnwys academïau chwaraeon, clybiau a mwy
- Gwnewch gais ar y noson gyda chymorth gan ein cynghorwyr
Argymhellir archebu lle ymlaen llaw. Dewiswch eich amser i fynychu - yr amser hwn yw eich amser cyrraedd a gallwch aros ar ôl hyn. Cyrhaeddwch o fewn y slot amser hanner awr hwn.
Sylwer: mae slot amser 6:30-7:00pm y digwyddiad hwn wedi'i ddynodi'n "Hanner Awr Tawel" gyda nifer cyfyngedig o leoedd i fynychu. Mae hyn er mwyn sicrhau amser dynodedig i unrhyw fynychwyr a allai gael eu llethu gan amgylchedd prysur.
Nosweithiau Agored eraill
- Diddordeb mewn dysgu yn y Barri? Rydym yn argymell eich bod yn mynychu ein Noson Agored Campws y Barri nos Dydd Mawrth, Mehefin 24ain, 2025.
Cliciwch yma i archebu lle ar un o'r digwyddiadau eraill hyn.
Angen cymorth?
Sgwrsiwch gyda'n tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gallant ateb eich cwestiynau, eich helpu i ddewis y cwrs delfrydol neu eich helpu i wneud cais.
SgwrsFyw: ewch i www.cavc.ac.uk a chliciwch ar yr eicon SgwrsFyw, neu Ffoniwch: 02920 250 250.