Multiple Dates
Circular Economy Innovation Communities Programme: Insight Event
Event Information
About this Event
Hello
• Are you a public sector leader or manager who is interested in co-creating new products and services that keep resources in use for as long as possible?
• Are you passionate about creating a prosperous, greener or more equal Wales?
• Do you want to enhance your innovation knowledge and skills?
• Do you have a role to play in well-being, sustainabilty or community regeneration in the local authority or a health board in the Cardiff Capital (Cardiff, The Vale of Glamorgan, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Caerphilly, Monmouthsire, Bridgend, Blaenau Gwent, Torfaen and Newport) or Swansea Bay City (Carmarthenshire, Neath Port Talbot, Pembrokeshire and Swansea) region?
Then the Circular Economy Innovation Communities (CEIC) programme (run by Swansea and Cardiff Metropolitan universities, and funded by the Welsh Government and the European Social Fund) may be for you.
Swansea University and Cardiff Metropolitan University are holding information events across three dates. Read below to find out more and book on for free!
Why?
We are living through one of the most challenging times in living history.
In addition to a devastating global pandemic, Wales also faces a number of other challenges including climate change, poverty, health inequalities, homelessness and growth.
These issues are highly relevant and are in line with the ‘Well-being of Future Generations (Wales) Act'. Public organisations have a duty to think about the long-term impact of their decisions to work better with people, communities and each other, and prevent persistent problems such as poverty, health, inequalities and climate change.
With the introduction of the new law of 7 goals, all the public bodies know what they must work towards. The Wellbeing Goals are:
A globally responsible Wales
A prosperous Wales
A resilient Wales
A healthier Wales
A more equal Wales
A Wales of cohesive communities
A Wales of vibrant culture and thriving Welsh language
There is already exciting innovation practice taking place. You need to make sure that when you make decisions you think about how it will affect people living in Wales in the future. This means you need to think about being sustainable.
To be sustainable, you have to think about:
• The long term
• How to stop problems happening in the first place
• How they work together with others
• How they involve people in making decision
However is there more we can do?
To meet the Welsh Government’s Future Generations goal, how can we create solutions that will deliver ‘Circular Economy’ benefits? How can we keep resources in use for as long as possible by recovering and regenerating materials at the end of their life, instead of disposing of them?
Together we can create ideas that not only creates the next generation of what our communities need, but also support Wales to become a zero-waste, net-zero carbon country that is greener, more equal and more prosperous.
The CEIC programme can provide you the opportunity to play your part;
- to co-produce ideas with a variety of departments and sectors
- to broaden your knowledge base
- to expand collaboration between regional public bodies
- to give theory behind your thinking
Play your part
The CEIC programme is a fully-funded 10 month programme comprising of workshops, site visits (COVID-19 restrictions dependant), action learning, peer learning and expert support to enable public sector managers and leaders to co-create new products or services.
For more information about the overall programme see here: https://www.swansea.ac.uk/som/business/ceic-programme/
Tackling Your Challenges
Participants in the programme will be invited to view every day challenges in your organisation through a circular economy lens: how can we implement solutions that are resource-efficient, resilient and low-carbon by design?
We want the public sector to work effectively together to re-think how resources are managed within new and existing projects and services, so that they can maximise the financial, environmental and social benefits within the organisation.
This might be through:
• Procurement of products that are refurbished, remanufactured or contain recycled materials and/or products designed for long life, reuse and repair
• Procurement of services that provide access to products (for example, renting or leasing furniture or medical equipment)
• Implementing processes that allow the effective sharing of resources between different public sector organisations
• Collaboration between different public sectors
• Building partnerships that turn public sector waste into resources for another industry
• Designing policies that ensure resource-efficient delivery of public services (for example, guidance on retrofitting of social housing or renewable energy for public transport)
There are many other potential circular economy opportunities and we are excited to see what your ideas are!
Who is eligible to take part?
• Managers and leaders of public services and third sector organisations, that are constituted as a charity, Community Interest Company, or Community Benefit Society
- Located in the Cardiff Capital (Cardiff, The Vale of Glamorgan, Rhondda Cynon Taff, Merthyr Tydfil, Caerphilly, Monmouthsire, Bridgend, Blaenau Gwent, Torfaen and Newport) or Swansea Bay City (Carmarthenshire, Neath Port Talbot, Pembrokeshire and Swansea) region
Information Events
If you are a public leader that is interested in any of these topics in the Cardiff Capital (Cardiff, The Vale of Glamorgan, Rhondda Cynon Taff, Merthyr Tydfil, Caerphilly, Monmouthsire, Bridgend, Blaenau Gwent, Torfaen and Newport) or Swansea Bay City (Carmarthenshire, Neath Port Talbot, Pembrokeshire and Swansea) region, then come along to our insight events:
o Wednesday 25th November 2020, 10:00-12:00
A Microsoft Teams link will be sent to you after registration.
For more information please contact Lizzie Thomas
Email: elizabeth.thomas252ccb@wales.nhs.uk
Mae’r Rhaglen ar gyfer Arloesi Cymunedol yn yr Economi Gylchol (CEIC) yn brosiect a ariennir yn llawn sy’n darparu cymorth a phrosesau i’r sector cyhoeddus er mwyn helpu i ganfod a datrys problemau ar y cyd.
Ynglŷn â’r digwyddiad hwn.
Ynglŷn â’r digwyddiad hwn.
Helo,
• Ydych chi’n arweinydd neu reolwr yn y sector cyhoeddus gyda diddordeb mewn cyd-greu cynnyrch a gwasanaethau newydd sy’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio am gyhyd â phosib?
• Ydych chi’n angerddol am greu Cymru lewyrchus, werdd neu fwy cyfartal?
• Ydych chi eisiau gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau arloesi?
• Oes rôl gyda chi i’w chwarae ym meysydd lles, cynaliadwyedd neu adfywio cymunedol yn ardal eich awdurdod lleol neu mewn Bwrdd Iechyd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Torfaen a Chasnewydd) neu Ddinas-Ranbarth Bae Abertawe (Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe)?
Yna mae’n bosib mai’r Rhaglen CEIC (sy’n cael ei rhedeg gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop) yw’r dewis cywir i chi.
Mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth ar 3 dyddiad. Darllenwch isod i gael gwybod mwy ac i drefnu eich lle yn rhad ac am ddim!
Pam?
Rydyn ni’n byw trwy un o’r adegau mwyaf heriol ers cyn cof.
Yn ogystal â phandemig byd-eang dinistriol, mae Cymru hefyd yn wynebu nifer o heriau eraill gan gynnwys newid hinsawdd, tlodi, anghydraddoldebau iechyd, digartrefedd a diffyg twf.
Mae’r materion hyn yn hynod o berthnasol ac maen nhw’n unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae cyfrifoldeb ar sefydliadau cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau anodd eu dileu fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.
Gyda chyflwyno cyfraith y 7 amcan newydd, mae pob corff cyhoeddus yn gwybod beth sydd rhaid iddo weithio tuag ato. Dyma’r amcanion lles:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cymru Iewyrchus
Cymru gydnerth
Cymru iachach
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Mae gwaith arloesol cyffrous yn cael ei wneud yn barod. Wrth wneud penderfyniadau, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn ystyried yr effaith y byddan nhw’n ei chael ar bobl fydd yn byw yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi feddwl am fod yn gynaliadwy.
I weithredu mewn modd cynaliadwy, rhaid i chi ystyried y canlynol:
• Yr hirdymor
• Sut i atal problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf
• Sut rydych chi’n cydweithio ag eraill
• Sut rydych yn cynnwys pobl eraill wrth wneud penderfyniadau
Fodd bynnag, oes mwy y gallwn ni ei wneud?
Er mwyn cyrraedd amcan Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru, sut allwn ni greu datrysiadau fydd yn cynnig buddion ‘Economi Gylchol’? Sut allwn ni sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio am gyhyd â phosib trwy adfer ac adnewyddu deunyddiau ar ddiwedd eu hoes yn lle eu taflu?
Gyda’n gilydd, gallwn ddyfeisio syniadau sydd nid yn unig yn creu’r genhedlaeth nesaf o’r hyn sydd ei angen ar ein cymunedau, ond sydd hefyd yn helpu Cymru i ddod yn wlad ddiwastraff, net-sero o ran carbon, ac sy’n wyrddach ac yn fwy cyfartal ac yn llewyrchus.
Gall y Rhaglen ar gyfer Arloesi Cymunedol yn yr Economi Gylchol roi’r cyfle i chi chwarae eich rhan wrth wneud y canlynol:
- cyd-greu syniadau ag amrywiaeth o adrannau a sectorau
- ehangu eich gwybodaeth
- cynyddu cydweithio rhwng cyrff cyhoeddus rhanbarthol
- defnyddio theori i atgyfnerthu eich syniadau
Chwaraewch eich rhan
Mae CEIC yn rhaglen 10 mis sy'n cael ei hariannu'n llawn, ac sy’n cynnwys gweithdai, ymweliadau â safleoedd (yn ddibynnol ar gyfyngiadau COVID-19), dysgu gweithredol, dysgu gan gymheiriaid a chymorth arbenigol er mwyn galluogi rheolwyr ac arweinwyr y sector cyhoeddus i gyd-greu cynnyrch neu wasanaethau newydd.
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen yn gyffredinol, dilynwch y ddolen hon:
https://www.swansea.ac.uk/som/business/ceic-programme/
Ateb eich heriau
Byddwn yn gwahodd y rheiny sy’n cymryd rhan yn y rhaglen i edrych ar heriau pob dydd yn eich sefydliad trwy lens economi gylchol: sut allwn ni roi datrysiadau ar waith sy’n effeithlon o ran adnoddau, yn wydn ac yn garbon isel eu dyluniad?
Rydyn ni eisiau i’r sector cyhoeddus gydweithio’n effeithiol i feddwl eto am sut mae adnoddau’n cael eu rheoli o ran prosiectau a gwasanaethau presennol, yn ogystal â phrosiectau a gwasanaethau newydd, er mwyn iddyn nhw allu cael y budd ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol mwyaf posib yn y sefydliad.
Gellid gwneud hynny trwy un o'r canlynol:
• Caffael cynnyrch sydd wedi ei adnewyddu, ei ailgynhyrchu neu sy’n cynnwys adnoddau wedi eu hailgylchu a/neu nwyddau sydd wedi eu dylunio i bara’n hir ac i gael eu hailddefnyddio a’u trwsio
• Caffael gwasanaethau sy’n eich galluogi i ddefnyddio cynnyrch (e.e. rhentu neu brydlesu dodrefn neu offer meddygol)
• Gweithredu prosesau sy’n galluogi rhannu adnoddau rhwng sefydliadau sector cyhoeddus gwahanol yn effeithiol
• Cydweithredu rhwng sefydliadau sector cyhoeddus gwahanol
• Adeiladu partneriaethau sy’n troi gwastraff y sector gyhoeddus yn adnoddau ar gyfer diwydiant gwahanol
• Dylunio polisïau sy’n sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn modd sy’n effeithlon o ran adnoddau (e.e. arweiniad ar ôl-osod tai cymdeithasol neu ynni adnewyddadwy ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus)
Mae nifer o gyfleoedd economi gylchol posib eraill ac rydyn ni’n gyffrous i glywed eich syniadau!
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
• Rheolwyr ac arweinwyr sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n elusennau, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol neu Gymdeithasau Budd Elusennol.
- Wedi eu lleoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Torfaen a Chasnewydd) neu Ddinas-Ranbarth Bae Abertawe (Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe)
Digwyddiadau gwybodaeth
Os ydych chi’n arweinydd cyhoeddus, ac os oes diddordeb gyda chi mewn lles, cynaliadwyedd neu adfywio cymunedol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Torfaen a Chasnewydd) neu Ddinas-Ranbarth Bae Abertawe (Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe), yna dewch i un o’n digwyddiadau gwybodaeth:
• Dydd Mercher 25 Tachwedd 2020, 10:00-12:00
Bydd dolen Microsoft Teams yn cael ei hanfon atoch ar ôl i chi gofrestru.
Cysylltwch â Lizzie Thomas am ragor o wybodaeth.
E-bost: elizabeth.thomas252ccb@wales.nhs.uk