Civic Mission Summit | Uwchgynhadledd Cenhadaeth Ddinesig
Event Information
Description
Join colleagues from across Wales and beyond at an event to discuss and debate the civic mission of higher education and the future development of civic mission in Wales.
This one-day Summit will feature key speakers such as Professor Ellen Hazelkorn and Professor John Goddard, and the Cabinet Secretary for Education, Kirsty Williams AM. The Summit will be a unique opportunity to discuss and share experiences on the civic mission of higher education with other institutions and individuals involved in this work in Wales and beyond in a series of panel discussions.
The event is a key milestone in developing the civic mission of higher education in Wales and is suitable for those involved in higher education and the civic mission of higher education, such as business and industry, third sector, City Deals, further education and schools.
_________________________________________________________
Ymunwch â chydweithwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt mewn digwyddiad i drafod cenhadaeth ddinesig addysg uwch a sut caiff ei datblygu yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd yr Athro Ellen Hazelkorn, yr Athro John Goddard ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, ymhlith y prif siaradwyr yn yr uwchgynhadledd un-dydd hon, a bydd yn gyfle unigryw i drafod a rhannu profiadau o genhadaeth ddinesig addysg uwch gyda sefydliadau ac unigolion eraill sy’n gweithio yn y maes yng Nghymru a thu hwnt mewn cyfres o drafodaethau panel.
Mae’r digwyddiad yn garreg filltir allweddol wrth ddatblygu cenhadaeth ddinesig addysg uwch yng Nghymru ac mae’n addas ar gyfer y rhai sy'n gysylltiedig ag addysg uwch a chenhadaeth ddinesig addysg uwch e.e. busnes a diwydiant, trydydd sector, bargeinion dinesig, addysg bellach ac ysgolion.