For English description please scroll down
Mae Clare Marie Bailey yn ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau sy'n cael ei hadnabod am ei hunan-bortreadau a ffilmiau analog swreal sydd yn creu bydau y tu hwnt i realiti bob dydd.
Wedi ei magu ar Ynys Môn, mae ei gwaith yn cael ei ddylanwadu'n fawr gan sinema, eiconau hudolus a diddordeb mewn themâu ail-greadigaeth a doppelgängers. Gan weithio yn bennaf gyda ffilm ac yn defnyddio ei hun fel y pwnc, nid ydi ei delweddau'n bortreadau hunan-gynhaliol syml, ond yn hytrach yn ganlyniadau gweledol o fydau mewnol a thirweddau seicolegol.
Yn ei sgwrs, bydd Clare yn trafod esblygiad ei phroses—o'i dyddiau cynnar yn dogfennu cymeriadau ymylol o'i thref enedigol, sydd wedi helpu i lywio ei hymagwedd, ei dylanwadau a'r bendith gymysg o fod yn hunan-ddisgybledig.
Mae gwaith Clare wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol ac mae'n cael ei chynnwys yn y llyfr Polaroid Now: Hanes a Dyfodol Ffotograffiaeth Polaroid. Mae ei ffotograffau hefyd yn rhan o gasgliad parhaol yn Amgueddfa Polaroid yn California. Ynghyd â'i gweithiau celf gweledol, mae hi wedi cydweithio â cherddorion gan gynnwys Gwenno a Melin Melyn, gan ehangu ei disgyblaeth i gynnwys gwaith fideo cerddorol a pherfformiad.
Clare Marie Bailey is a photographer and filmmaker known for her surreal, dreamlike self-portraits and analogue films that construct alternative worlds beyond everyday reality. Born and raised on the Isle of Anglesey, her work is deeply influenced by cinema, magical iconography, and a fascination with the themes of reinvention and doppelgängers. Working primarily with film and using herself as the subject, her images are not straightforward self-portraits but rather visual manifestations of inner worlds and psychic landscapes.
In her talk, Clare will discuss the evolution of her practice—from her early days documenting the outsider characters of her hometown, which helped shape her approach, her influences and the mixed blessing of being self-taught.
Clare’s work has been exhibited internationally and is featured in the book Polaroid Now: The History and Future of Polaroid Photography. Her photographs are also part of the permanent collection at the Polaroid Museum in California. In addition to her visual art, she has collaborated with musicians including Gwenno and Melin Melyn, expanding her practice into music video and performance-inspired work.