Beth sy'n newid?
Daeth y Ddeddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) yn gyfreithiol ym mis Medi 2025.
Mae'r gyfraith yn rhoi'r dewis i gynghorau Cymru gyflwyno ardoll ymwelwyr o fis Ebrill 2027. Dim ond ar ôl i gynghorau ymgynghori â chymunedau a busnesau lleol y byddai unrhyw ardoll yn cael ei gyflwyno.
O hydref 2026 ymlaen, yn unol â’r gyfraith rhaid i unrhyw un sy'n codi tâl ar ymwelwyr dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Mae cofrestru yn angenrheidiol i bawb sy'n codi tâl am arosiadau dros nos, o westai a bythynnod gwyliau, i wersylloedd a gosodiadau achlysurol yn ystod digwyddiadau mawr.
Paratowch nawr
Mae ACC yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth cofrestru a rheoli'r ardoll ymwelwyr ar ran cynghorau.
Mae ACC yn cynnal gweminarau ym mis Tachwedd i'ch helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau. Fe gewch:
· ddiweddariadau ar gofrestru llety ymwelwyr a’r ardoll ymwelwyr
· canllawiau ymarferol ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud
· atebion i'ch cwestiynau gan arbenigwyr ACC.
Cysywlltwch gyda ni ar digwyddiadauacc@acc.llyw.cymru gydag unrhyw ymholiadau.
DIOLCH