Networking Day at Aberduna Tree Nursery
In order to tackle the climate crisis, we support saving local heritage tree seeds and propagation for local projects in Wales. This workshop is part of a training program to enable Welsh communities to register tree seed clusters, collect tree seeds from healthy trees and set up their own tree nurseries to provide saplings for local tree planting projects.
What to expect-
Tree nursery networking day at the North Wales Wildlife Trust's Tree nursery site at Aberduna, with a talk and tour from Sarah Ellis, the Tree nursery officer, about the set-up and management practices on the site.
This site is UKISG-accredited and an example of good practice. The day will include a guided tour around the nursery with plenty of opportunity to ask questions.
There will be a workshop in the afternoon to discuss ways that tree nurseries can become more resilient to climate change.
This event has been made possible with thanks to Coed Cadw, the Woodland Trust in Wales, with support from Players of People’s Postcode Lottery.
- ----------------------------------------------------------------------------------------------------
Diwrnod Rhwydweithio ym Meithrinfa Goed Aberduna
Er mwyn mynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, rydym yn cefnogi achub hadau coed treftadaeth lleol a’u lluosogi ar gyfer prosiectau lleol yng Nghymru. Mae’r gweithdy hwn yn rhan o raglen hyfforddiant i alluogi cymunedau yng Nghymru i gofrestru clystyrau hadau coed, casglu hadau coed o goed iach a sefydlu eu planhigfeydd coed eu hunain i ddarparu glasbrennau ar gyfer prosiectau plannu coed lleol.
Beth i'w ddisgwyl-
Diwrnod rhwydweithio meithrinfa goed ar safle meithrinfa goed Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn Aberduna, gyda sgwrs a thaith dywys gan Sarah Ellis, swyddog y blanhigfa Goed, ynglŷn â’r arferion rheoli ar y safle.
Mae’r safle wedi cael achrediad UKISG ac mae’n enghraifft o arfer dda. Bydd y diwrnod yn cynnwys taith dywys o amgylch y feithrinfa goed gyda digon o gyfleoedd i ofyn cwestiynau.
Cynhelir gweithdy yn y prynhawn i drafod ffyrdd y gall meithrinfeydd coed ddod yn fwy gwydn i’r newid yn yr hinsawdd.
Diolch i Coed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru, gyda chefnogaeth Loteri Cod Post y Bobl, am wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.