Community Energy - New Horizons
Event Information
Description
We are excited to be hosting an event highlighting some of the different ways community energy organisations are revolutionising the way we consume and use energy. The community energy sector is proving to be very resilient and innovative in the face of considerable challenges. None more so than in this small corner of North Wales where Cyd Ynni (a consortia of local community energy organisations) are teaming up with Energy Local and a range of other partners to deliver a trial to offer local people the chance to buy their energy directly from a locally owned hydro scheme. This could revolutionise the way we consume energy and where we buy it from as well as making locally owned renewable schemes more viable in the long term.
This event will enable you to hear from and meet the key players involved in this innovative trial and visit the place where it is all happening. Speakers include Mary Gillie from Energy Local, Keith Jones from the National Trust and Alun Hughes from Ynni Padarn Peris.
In addition to this we will hear from people and organisations that are looking at different ways that communities could generate energy in the form of heat, marine energy and storage. This will all be taking place during Community Energy Fortnight and we are pleased to be able to share some of the incredible, innovative projects that Communities in Wales and beyond are involved in and provide the opportunity for those interested in and active in the community energy sector to share ideas and network.
Rydyn ni’n gyffrous ein bod yn cynnal digwyddiad sy’n tynnu sylw at rai o’r ffyrdd gwahanol mae sefydliadau ynni cymunedol yn chwyldroi’r ffordd rydyn ni’n defnyddio ynni. Mae’r sector ynni cymunedol yn profi i fod yn gadarn iawn ac yn arloesol yn wyneb heriau sylweddol. A neb yn fwy felly nag yn y gornel fechan hon o Ogledd Cymru lle mae Cyd Ynni (consortia o sefydliadau ynni cymunedol lleol) yn ymuno gydag Energy Local ac ystod o bartneriaid eraill er mwyn cyflwyno arbrawf i gynnig cyfle i bobl leol brynu eu hynni’n uniongyrchol gan gynllun hydro sy’n eiddo lleol. Gallai hyn chwyldroi’r ffordd rydyn ni’n defnyddio ynni ac o ble rydyn ni’n ei brynu hefyd, yn ogystal â gwneud cynlluniau adnewyddadwy sy’n eiddo lleol yn fwy ymarferol yn y tymor hir.
Bydd y digwyddiad yma’n gyfle i chi gyfarfod a gwrando ar yr unigolion allweddol sy’n ymwneud â’r arbrawf arloesol yma ac ymweld â’r lle ble mae’r cyfan yn digwydd. Ymhlith y siaradwyr mae Mary Gillie o Energy Local, Keith Jones o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Alun Hughes o Ynni Padarn Peris.
Hefyd byddwn yn cael cyfle i wrando ar bobl a sefydliadau sy’n edrych ar wahanol ffyrdd i gymunedau gynhyrchu ynni ar ffurf gwres, ynni morol a storio. Bydd hyn yn digwydd yn ystod y Pythefnos Ynni Cymunedol ac rydyn ni’n falch o allu rhannu rhai o’r prosiectau anhygoel ac arloesol mae Cymunedau yng Nghymru a thu hwnt yn cymryd rhan ynddynt, gan roi cyfle i bawb sydd â diddordeb yn y sector ynni cymunedol ac sy’n weithredol ynddo i rannu syniadau a rhwydweithio.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael eich gweld chi yno.