COVID-19 vaccine communications workshop for the voluntary sector
Event Information
About this Event
Gweithdy cyfathrebu brechlyn COVID-19 ar gyfer y sector gwirfoddol
Sut gall y sector gwirfoddol gefnogi’r rhaglen frechlyn drwy gyfathrebiadau.
Dydd Iau 4 Chwefror, 3pm – 4pm
Cynnwys
Gyda’r rhaglen frechlyn nawr ar waith, bydd mudiadau gwirfoddol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o rannu gwybodaeth hanfodol am y brechlyn a sut mae’n cael ei ddosbarthu yma yng Nghymru. Gan fod mudiadau gwirfoddol yn lleisiau y gellir ymddiried ynddynt ac yn gweithio mor agos â chymunedau a grwpiau penodol sydd angen eu blaenoriaethu i dderbyn y brechlyn, gallan nhw helpu i gyflwyno gwybodaeth i unigolion a chymunedau a allai fod yn anoddach eu cyrraedd fel arall.
Yn y digwyddiad rhyngweithiol hwn, byddwn yn clywed gan swyddogion cyfathrebu a chynllunio Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw egluro lle mae’r rhaglen wedi cyrraedd hyd yma a’r cynlluniau sydd ar droed ar gyfer y misoedd i ddod.
Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan gyflwyniad ar sut y caiff brechlynnau eu datblygu gan Darius Hughes, Cadeirydd ABPI Vaccines Group a Phennaeth Pfizer Vaccines UK. Mae’r ABPI Vaccine Group yn cynrychioli’r rhan helaeth o gwmnïau sy’n gwneud gwaith ymchwil ar frechlynnau, yn eu datblygu ac yn eu cyflenwi i’w defnyddio yn rhaglenni imiwneiddio cenedlaethol y DU.
Byddwn ni wedyn yn defnyddio rhan olaf y digwyddiad hwn i gynnal sesiwn holi ac ateb, lle byddwn ni’n gofyn i fudiadau gwirfoddol am farn ac ymateb eu defnyddwyr gwasanaethau a’u cymunedau i’r rhaglen frechlyn hyd yma, ac yn ateb unrhyw gwestiynau y gallai fod gennych ynghylch y rhaglen a datblygu’r brechlyn.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn?
Mudiadau o’r sector gwirfoddol sy’n gweithredu yng Nghymru, yn arbennig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Ynglŷn â CGGC:
CGGC yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Rydyn ni’n bodoli i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
________________________________________________
COVID-19 vaccine communications workshop for the voluntary sector
How the voluntary sector can support the vaccine programme through communications.
Thursday 4 February, 3pm – 4pm
Content
With the vaccine programme now underway, voluntary organisations will play a key role in sharing vital information about the vaccine and how it is being deployed here in Wales. As trusted voices who work so closely with communities and specific groups who need to be prioritised in receiving the vaccine, voluntary organisations can help to provide information to individuals and communities who otherwise may be harder to reach.
In this interactive event, we will hear from Welsh Government communications and planning officials about where the programme has reached to date and plans for the coming months.
Followed by a presentation on how vaccines are developed from Darius Hughes, Chair of the ABPI Vaccines Group and Head of Pfizer Vaccines UK. The ABPI Vaccine Group represents the majority of the companies that research, develop and supply vaccines for use in the UK's national immunisation programmes.
We will then open the final part of this event up for a Q&A session, where we will be asking voluntary organisations for insight from their service users and communities on reaction to the vaccine programme so far and to answer any questions you may have about the programme and vaccine development.
Who the session is for?
Voluntary sector organisations operating in Wales, specifically within health and social care.
About WCVA:
WCVA is the national membership body for voluntary organisations in Wales. We exist to enable voluntary organisations in Wales to make a bigger difference together.
***
DEFNYDDIO'CH GWYBODAETH BERSONOL
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni a byddwn dim ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi hwn/gweminar hon ac i ddarparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydyn ni’n cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM). Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, pwy all gael mynediad ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon.
Gellir rhoi manylion cyswllt (enw, enw mudiad, cyfeiriad e-bost) y cyfranogwyr i gynrychiolwyr/cyflwynwyr eraill, gyda’u caniatâd.
USING YOUR PERSONAL INFORMATION
Wales Council for Voluntary Action (WCVA) is a Data Controller, registered with the Information Commissioner’s Office (The ICO) under the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation (GDPR). We take your privacy seriously and will only use your personal information to administer this training course/webinar and provide the products and/or services you have requested from us.
At WCVA we store your contact details in our Customer Management Relationship (CRM) database. Please see WCVA’s privacy notice to find out how your information will be used, who can access it, the legal bases on which your information is held and your rights in relation to this information.
Contact details (name, organisation name, email address) of participants may be given to other delegates/presenters, subject to permissions.