Covid Safety 4 Theatres & Events/Diogelwch Covid i Theatrau a Digwyddiadau
Event Information
About this Event

PWYSIG: Cefnogir CULT Cymru gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, Llywodraeth Cymru - felly mae ein gweithdai a digwyddiadau ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru yn unig.
IMPORTANT: CULT Cymru is supported by the Welsh Government's Wales Union Learning Fund therefore our courses are only available to those living in Wales.
Os yw arian neu broblem mynediad oherwydd e.e. anabledd yn rhwystr i chi allu ymuno â gweithgareddau CULT Cymru cysylltwch â siwan@bectu.org.uk er mwyn trafod eich gofynion yn gyfrinachol
If money or access issues due to e.g. a disability is a barrier to you being able to join CULT Cymru activities please contact siwan@bectu.org.uk to discuss your requirements confidentially
**Bilingual text - scroll down for English language
Diogelwch Covid i Theatrau a Digwyddiadau
Dylid ystyried cydymffurfiaeth COVID-19 yn gyfrifoldeb pawb yn y gweithle. Datblygwyd y cwrs hwn i roi dealltwriaeth i gynrychiolwyr o gyfrifoldebau iechyd a diogelwch COVID-19. Bydd yn eich helpu i reoli a monitro risg i wella Iechyd a Diogelwch yn y gwaith gan helpu i reoli'r perygl newydd hwn yn y gweithle.
This course is suitable for:
Anyone in the workplace who may be required to manage COVID-19 as part of their H&S responsibilities.
Mae'r cwrs yn cynnwys:
• Beth yw COVID-19?
• Deddfwriaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
• Lliniaru risg yn y gweithle
• Creu a diweddaru asesiadau risg
• Canllawiau'r Llywodraeth ac arfer gorau'r diwydiant
Ar ddiwedd y cwrs hwn byddwch yn:
• Gwybod mwy am COVID-19 a ffactorau risg yn y gweithle
• Gwybod pam mae asesiadau risg yn bwysig wrth helpu i frwydro yn erbyn y feirws
• Cydnabod lliniaru risg yn synhwyrol – gwneud pethau'n wahanol!
Cyflwyno'r cwrs:
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy Zoom ar gyfer uchafswm o 15 o bobl.
Bydd cyfle i rannu a thrafod unrhyw faterion sy'n ymwneud â rheoli COVID-19 yn eich gweithleoedd.
Hyfforddwr:
Hwylusydd y cwrs yw Phill Brown Pennaeth Risg a Diogelwch SOLT a Theatr y DU.
Mae Phill yn Gymrawd Siartredig Sefydliad Diogelwch Galwedigaethol ac Iechyd (CFIOSH), Cymrawd Cymdeithas Technegwyr Theatr Prydain (ABTT) ac yn Gymrawd o'r Sefydliad Rhyngwladol ar Reoli Risg a Diogelwch (FIIRSM)
Covid Safety 4 Theatres & Events
COVID-19 compliance should be considered everyone’s responsibility within the workplace. This course has been developed to give delegates an understanding of COVID-19 health and safety responsibilities. It will help you control and monitor risk to improve H&S at work helping to manage this new workplace hazard.
This course is suitable for:
Anyone in the workplace who may be required to manage COVID-19 as part of their H&S responsibilities.
Course includes
• What is COVID-19?
• H&S Legislation
• Risk mitigation in the workplace
• Creation & updating of risk assessments
• Government guidance and industry best practice
At the end of this course you will:
• Understand more about COVID-19 & workplace risk factors
• Know why risk assessments are important in helping combat the virus
• Recognise sensible risk mitigation – doing things differently!
Course delivery:
The course will be delivered via Zoom for a maximum of 15 people.
There will be an opportunity to share and discuss any issues around managing COVID-19 in your workplaces.
Trainer:
The course facilitator is Phill Brown Head of Risk & Safety SOLT & UK Theatre.
Phill is a Chartered Fellow Institution of Occupational Safety and Health (CFIOSH), Fellow of the Association of British Theatre Technicians (ABTT) and a Fellow of International Institute of Risk and Safety Management (FIIRSM)
CULT CYMRU
Mae gweithdai CULT Cymru yn cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar ac anfygythiol ble bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chodi materion yn ystod y dydd.
CULT Cymru workshops are delivered in a friendly and non-threatening environment where participants will have the opportunity to ask questions and raise issues during the day.
Diogelu Data
Ariennir Hyfforddiant Sector BECTU yng Nghymru yn rhannol gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru trwy brosiect yr undebau creadigol ar y cyd CULT Cymru. Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer y cwrs neu ddigwyddiad hyfforddiant hwn, rydych chi'n cytuno i rannu eich data personol gyda'r arianwyr fel rhan o delerau BECTU ar gyfer derbyn y cyllid. Defnyddir y data er mwyn dangos canlyniadau ac allbynnau yn unig ac fe'i cedwir yn ddiogel am gyfnod o 10 mlynedd, fel y nodir yn y cytundebau ar gyfer y cyllid.
Yn ogystal, mae Prospect/BECTU yn defnyddio’r data hwn i ddanfon gwybodaeth am ddigwyddiadau a hyfforddiant BECTU/CULT Cymru yn y dyfodol; eich diweddaru chi gyda newyddion, adnoddau a chyhoeddiadau ac i gysylltu gyda chi ar gyfer unrhyw ymchwil fyddwn ni am gynnal i’r diwydiant. Ni fyddwn yn rhannu neu ddefnyddio eich data heb eich caniatâd chi. Os gwelwch yn dda, arddangoswch eich bod chi’n hapus i BECTU/CULT Cymru gysylltu gyda chi yn y moddau yma trwy ticio ‘ie’ yn yr adran ‘Eich gwybodaeth chi' ar ddiwedd y ffurflen archebu.
Sut i gwyno neu wyrdynnu’ch caniatâd
Os nad ydych chi am dderbyn gohebiaeth bellach gan BECTU/CULT Cymru gallwch dynnu eich enw yn ôl trwy gysylltu gyda siwan@bectu.org.uk
Pe baech ag unrhyw gwestiynau neu bryderon am y data rydym ni yn cadw a sut yr ydym yn ei ddefnyddio, os gwelwch yn dda yn y man cyntaf cysylltwch gydag Adran Hyfforddiant BECTU/CULT Cymru. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cwyno am ddefnydd neu gasglu eich manylion gan yr Adran Hyfforddiant ei hun yna gallwch wneud hynny trwy ebostio’r Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data Tracey Hunt ar datacompliance@prospect.org.uk
Data Protection
Prospect's BECTU Sector Training in Wales is partly funded by the Welsh Government’s Wales Union Learning Fund via the joint-union CULT Cymru project. By registering for this training course or event, you are accepting that your personal data will be shared with the funder as part of BECTU’s requirements to receive the funding. The data is used only to show outcomes and outputs and is securely maintained for a period of 10 years, as stated in contracts for the funding.
In addition, Prospect/BECTU uses this data to send you information about future BECTU/CULT Cymru events and training courses, update you on news, resources and publications and contact you for any future research we may conduct into the industry. We will never use or share your data without your permission. Please indicate that you are happy for BECTU/CULT Cymru to contact you in this way by ticking yes under 'Your information' at the end of the booking form.
How to withdraw your consent or make a complaint
If you no longer wish to receive communications from BECTU/CULT Cymru you can withdraw your consent by contacting the siwan@bectu.org.uk
If you have any questions or concerns about the data we hold and how we use it, please contact the BECTU/CULT Cymru Training Department in the first instance. However, if you wish to make a complaint about the Training Department's collection or use of your data, you are able to do so by contacting the GDPR Compliance Officer Tracey Hunt on datacompliance@prospect.org.uk
Polisi Canslo ac Ad-daliadau:
Bydd ad-daliad llawn yn cael ei rhoi i gynrychiolwyr sy’n canslo o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad. O fewn y bythefnos cyn y digwyddiad, oni bai ein bod ni’n gallu dod o hyd i rywun arall i gymryd eich lle, ni fyddem yn gallu rhoi ad-daliad. Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib os na fyddwch yn gallu mynychu.
Cancellation and Refunds Policy
A full refund will be issued to delegates who cancel at least 2 weeks prior to the event. Delegates who cancel within the 2 week period will not be eligible for a refund unless we are able to find someone else to take their place. Please let us know as soon as possible if you find you're no longer able to attend the workshop.