Criw Celf |Explore 3D forms |Creu ffurfiau 3D| Tomos Sparnon
Event Information
About this Event
Criw Celf Online
Create 3D forms with Tomos Sparnon
Creu ffurfiau 3D gyda Tomos Sparnon
Age 11-16 year olds
Saturday February 6th 2021
11am - 2pm
This workshop will be delivered bilingually in both Cymraeg and English
Explore the creation of 3D forms using objects and materials you have at home. Together we'll assemble objects into the form of a human head, using our imaginations to consider how we can transform objects from one thing to another. We will use our sculptural forms to create drawings, playing with composition and perspective. We'll be inspired by the work of Giorgio Morandi and Giuseppe Arcimboldo, who produced fascinating works of art using everyday objects.
My practice is an exploration of what it is to be human. Through different media including painting, drawing and sculpture, I explore man's relationship with his fellow man, with the world, with objects, with myself and with God. My aim is to capture the conflict between the visible and the invisible, between reality and what is not real.
I'm one of the directors of GS Artists (formerly known as Galerie Simpson), Swansea. I'm also a member of the Urdd National Eisteddfod Art Panel. Between September 2018 and July 2019, I worked as a Welsh medium Artist in Residence at Swansea College of Art.
\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\\
Archwiliwch bosibiliadau creu ffurfiau 3D gan ddefnyddio gwrthrychau a deunyddiau sydd gennych gartref. Gyda’n gilydd byddwn yn cydosod gwrthrychau i ffurfio pen dynol, gan ddefnyddio ein dychymyg i ystyried sut y gallwn drawsnewid gwrthrychau o un peth i'r llall. Byddwn yn defnyddio ein ffurfiau cerfluniol i greu darluniau, gan chwarae gyda chyfansoddiad a phersbectif. Cawn ein hysbrydoli gan waith Giorgio Morandi a Giuseppe Arcimboldo, a gynhyrchodd weithiau celf hynod ddiddorol gan ddefnyddio gwrthrychau bob dydd.
Mae fy ngwaith yn archwilio'r hyn ydyw i fod yn ddynol. Trwy baentio, arlunio, cerflunio a dulliau eraill, rwy'n archwilio perthynas dyn â'i gyd-ddyn, â'r byd, â gwrthrychau, â fy hunan ac â Duw. Fy nod yw dal and gwrthdrawiad rhwng and gweladwy a'r anweladwy, rhwng realiti a'r hyn nad yw'n real.
Rwy'n un o gyfarwyddwyr GS Artists (Galerie Simpson gynt), Abertawe. Rwyf hefyd yn aelod or Banel Celf Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru. Rhwng Medi 2018 a Gorffennaf 2019, gweithiais fel Artist Preswyl cyfrwng Cymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe.
Artist website - https://www.tomossparnon.com/