Cryfhau Cyfryngau Cymdeithasol | Social Media Super Charge - Instagram
Event Information
About this Event
MI FYDD Y SESIWN HON YN CAEL EI GYNNAL YN SAESNEG AR-LEIN. Mae yna ddogfennau Cymraeg ar gael os oes angen.
THIS SESSION WILL BE DELIVERED IN ENGLISH ONLINE. Welsh documents are available upon request.
------------------------------------------------------
Ymunwch â Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a WebAdept ar gyfer sesiwn loywi ar Instagram i fusnes.
Pa un ai fod gennych fenter ar yr ochr neu fusnes ar-lein yn barod, bydd y weminar hon yn trafod sut allwch chi wneud y mwyaf o'ch tudalen fusnes Instagram a nodweddion i roi hwb i'ch presenoldeb ar-lein.
Cryfhewch eich gwybodaeth am gyfryngau cymdeithasol ar gyfer 2021, gyda'n sesiwn gyntaf o'r flwyddyn.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Bydd y tîm yn WebAdept yn ymdrin â:
- Throsolwg o Instagram i fusnes
- Beth sy'n newydd?
- Tyfu eich cymuned
- Cynnwys ac ymgysylltu
- Enghreifftiau ymarferol
- Prif awgrymiadau
- Mesur llwyddiant
- Sesiwn Holi ac Ateb
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Mae'r gweithdy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o Instagram, ac yn awyddus i ddatblygu eu gwybodaeth. Mae'r gweithdy'n ddelfrydol i fusnesau newydd a busnesau bach.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gweithdai Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn agored i bawb, ond fe'u hanelir yn bennaf at fusnesau newydd a busnesau yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Cefndir y siaradwr
Yn wreiddiol o Sir Benfro, bu Mark yn gweithio i WebAdept yn Nhyddewi am 3 blynedd ar ôl graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2007. Ar ôl symud i Gaerdydd, ymunodd Mark â WalesOnline, lle bu'n gweithio am chwe blynedd gyfan, a'i swydd fwyaf diweddar oedd Cyfarwyddwr Digidol Masnachol. Yna, ail-ymunodd Mark â
WebAdept ar ddiwedd 2019, gan dderbyn yr her gyffrous o dyfu'r busnes o leoliad newydd yng Nghaerdydd.
Mae gan Mark gyfoeth o wybodaeth ddigidol i'w rhannu, ac yntau wedi gweithio gyda llawer iawn o BBaCh yng Nghymru yn ogystal â'r mwyafrif o gwmnïau mwyaf adnabyddus Cymru megis Go Compare, Admiral, URC, Croeso Cymru, y Bathdy Brenhinol, The Principality, Chwaraeon Cymru, Folly Farm a Brains ar eu gweithgarwch marchnata digidol.
********
Join Focus Carmarthen Enterprise Hub and WebAdept for a refresher session on Instagram for business.
Whether you have a side hustle or a business already online, this webinar will run through how you can make the most of your Instagram profile to boost your presence online.
Super charge your social media knowledge for 2021 with our third session of the month.
What will the event cover?
The team at WebAdept will cover:
- Overview of Instagram for business
- What’s new?
- Grow your community
- Content and engagement
- Practical examples
- Top tips
- Measuring success
- Q&A
Who is this workshop for?
This workshop is ideal for anyone who already has a basic understanding of Instagram, and would like to boost their knowledge. This event is ideal for start-ups and small businesses.
Additional Information
Focus Carmarthen Enterprise Hub workshops are open to all, however are primarily aimed at start-ups and businesses in Carmarthenshire and Pembrokeshire.
About the speaker
Originally from Pembrokeshire, Mark worked for Web Adept in St Davids for 3 years after graduating from Cardiff Met University back in 2007. After relocating to Cardiff Mark joined WalesOnline, where he worked for 6 years in total, most recently as their Commercial Digital Director. Mark then rejoined Web Adept at the end of 2019 with the exciting challenge of growing the business from their new Cardiff base.
Mark has a wealth of digital knowledge to share having worked with many Welsh SME's and most of Wales' best known brands such as Go Compare, Admiral, The WRU, Visit Wales, The Royal Mint, The Principality, Sport Wales, Folly Farm and Brains on their digital marketing activity.
Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu gofod arloesol i ddeori a sbarduno busnesau newydd a’r rhai sy'n ehangu. Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru
Mae'r digwyddiadau a ddarperir neu a gynhelir gan raglen Hybiau Menter Ffocws Llywodraeth Cymru am ddim ac yn agored i bobl o bob oedran, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae'r niferoedd yn brin a disgwyliwn alw mawr am lefydd, felly archebwch yn gynnar i ddiogelu'ch lle.
Focus Enterprise Hubs are an innovative space to incubate and accelerate new, and growing businesses. Focus Newtown and Focus Carmarthen Enterprise Hubs are part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government
Events delivered or hosted by the Focus Enterprise Hubs programme for the Welsh Government are free and open to all ages but must be booked in advance. Please be advised that numbers are limited and we expect high demand for places, so book early to secure your place.
Gwelir isod am ein datganiad preifatrwydd
https://businesswales.gov.wales/cy/busnes-cymru-datganiad-preifatrwydd
Our Privacy Policy can be found here
https://businesswales.gov.wales/business-wales-operational-privacy-statement