Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (Digwyddiad Cymraeg)
Event Information
About this Event
Digwyddiad yn y Gymraeg
Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu fel rhan o’n prosiect ymchwil cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Digwyddiadau ar gyfer pobl amrywiol yng Nghymru yw’r rhain. Maen nhw’n ymdrin â sut rydych chi’n profi anghydraddoldeb a’ch hawliau. Rydym hefyd yn croesawu grwpiau cymunedol a mudiadau trydydd sector sy’n cynrychioli pobl amrywiol yng Nghymru.
Pwy ydym ni?
Elusen cydraddoldeb yng Nghymru yw Diverse Cymru. Rydym yn edrych ar ac yn cynrychioli barn a phrofiadau pobl amrywiol yng Nghymru o’r holl grwpiau cydraddoldeb (nodweddion gwarchodedig). Rydym hefyd yn canolbwyntio ar brofiadau a materion rhyngblethol (pobl a chanddynt fwy nag un nodwedd cydraddoldeb). Mae gennym brofiad helaeth o waith ymgysylltu, ymchwil a pholisi yng Nghymru.
Ynglŷn â’r ymchwil
Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â ni i ofyn inni gasglu profiadau bywyd pobl yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol. Rydym am edrych ar beth ellir ei wella ar sail profiadau pobl. Byddwn yn casglu’r profiadau hyn trwy gynnal digwyddiadau ymgysylltu gyda phobl amrywiol ledled Cymru.
Rydym yn awyddus i glywed gan:
• Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
• Sipsiwn, Roma a Theithwyr
• Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
• Pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys:
o Pobl â nam symudedd. Er enghraifft, defnyddwyr cadair olwynion neu bobl â chyflyrau iechyd sy’n effeithio ar gerdded.
o Pobl â nam ar y synhwyrau. Er enghraifft, Pobl Ddall, Byddar neu â nam ar y clyw.
o Pobl â namau / anableddau dysgu. Er enghraifft, pobl awtistig a niwroamrywiol neu bobl â dyslecsia, dyspracsia neu Syndrom Downs.
o Pobl â nam gwybyddol. Er enghraifft, pobl â dementia neu hydroseffalws.
o Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Er enghraifft, HIV, diabetes neu MS.
• Pobl Lesbaidd, Hoyw, a Deurywiol
• Pobl hŷn dros 50 mlwydd oed
• Pobl ifanc dan 25
• Pobl sy’n feichiog neu sydd wedi geni’n ddiweddar
• Pobl gyda gwahanol grefyddau a chredoau a phobl heb grefydd neu gred
• Gofalwyr (pobl sy’n rhoi gofal di-dâl neu’n cefnogi ffrind neu aelod o’r teulu)
• Merched a dynion
• Pobl rhyngrywiol
• Pobl draws a phobl anneuaidd
• Pobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil
• A phobl o wahanol grwpiau neu ddosbarthiadau economaidd gymdeithasol
Bydd y digwyddiad ymgysylltu’n cael ei gynnal fel trafodaeth strwythuredig. Mae hyn yn golygu y bydd Diverse Cymru yn gofyn cwestiynau ac yn gwahodd cyfranogwyr i rannu eu profiadau ac i ateb y cwestiynau.
Bydd y cwestiynau’n trafod:
• eich dealltwriaeth o hawliau dynol a chydraddoldeb yng Nghymru
• eich profiadau eich hunan a sut mae’r rhain yn cysylltu â chydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
• eich profiadau a’ch barn am yr hyn sydd angen newid i wneud yn siŵr eich bod yn cael cydraddoldeb a chael eich hawliau yng Nghymru.
Bydd pawb yn cael cyfle i siarad a chyfle i ateb bob cwestiwn.
Byddwn yn defnyddio eich profiadau i lunio atebion i’r problemau. Bydd y tîm ymchwil yn ysgrifennu’r atebion hyn mewn adroddiad a byddwn yn ei anfon i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru’n edrych ar yr atebion hyn er mwyn gwella cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Cewch gymryd rhan drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain neu iaith gymunedol arall. Rhowch wybod inni am eich dewis iaith pan fyddwch chi’n cofrestru, os gwelwch yn dda.
Hefyd, gadewch inni wybod os bydd gennych unrhyw anghenion hygyrchedd pan fyddwch chi’n cofrestru, os gwelwch yn dda.
Welsh language event
We are inviting you to take part in an engagement event as part of our strengthening and advancing equality and human rights in Wales research project.
These events are for diverse people in Wales. They are about how you experience inequality and your rights. We also welcome community groups and third sector organisations who represent diverse people in Wales.
Who are we
Diverse Cymru is a Welsh equality charity. We look at and represent the views and experiences of diverse people in Wales from all the equality groups (protected characteristics.) We also focus on intersectional experiences and issues (people who have more than one equality characteristic.) We have extensive experience in engagement, research and policy work in Wales.
About the research
We have been contracted by Welsh Government to collect people’s lived experiences around equality and human rights. We want to look at what can be improved based on people’s experiences. We will be gathering these experiences by carrying out engagement events with diverse people all over Wales.
We are keen to hear from:
• Black, Asian and Minority Ethnic people
• Gypsies, Roma and Travellers
• Asylum Seekers and Refugees
• Disabled people. This includes:
o People with mobility impairments. For example, wheelchair users or people with health conditions that affect walking.
o People with sensory impairments. For example, Blind, Deaf, or hearing-impaired people.
o People with learning impairments / disabilities. For example, autistic and neuro-diverse people or people with dyslexia, dyspraxia, or Downs Syndrome.
o People with cognitive impairments. For example, people with dementia or hydrocephalus.
o People with long-term health conditions. For example, HIV, diabetes or MS.
• Lesbian, Gay and Bisexual people
• Older people over 50
• Young people under 25
• People who are pregnant or have recently given birth
• People with different religions and beliefs and no religion or belief
• Carers (people who provide unpaid care or support to a friend or family member)
• Women and men
• Intersex people
• Trans and non-binary people
• People who are married or in a civil partnership
• And people from different socio-economic groups or classes
The engagement event will be a structured discussion. This means that Diverse Cymru will ask questions and invite participants to share their experiences and answer each question.
The questions will cover:
• your understanding of human rights and equality in Wales
• your own experiences and how these relate to equality and human rights in Wales
• your experiences and views on what needs to be changed to make sure you experience equality and your rights in Wales.
Everyone will get a chance to speak and a chance to answer every question.
We will use your experiences to shape solutions. The research team will write these solutions in a report we will send to Welsh Government. Welsh Government will look at these solutions to improve equality and human rights in Wales.
You can take part in English, Welsh, British Sign Language or in another community language. Please let us know your preferred language when you register.
Also, please let us know if you have access requirements or other requirements when you register.
This is the Welsh language event