Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2 a Lefel 3 GChDDP:Ymarfer / Ymarfer a Theori (Llanrwst sesiwn BORE)

Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2 a Lefel 3 GChDDP:Ymarfer / Ymarfer a Theori (Llanrwst sesiwn BORE)

By City & Guilds/WJEC

Date and time

Tue, 19 Nov 2019 09:15 - 12:30 GMT

Location

Glasdir

Plas yn Dre Llanrwst Conwy LL26 0DF United Kingdom

Description

Bwriad y digwyddiad rhwydwaith hanner diwrnod, rhad ac am ddim hwn, yw cefnogi'r sawl sy'n cyflwyno'r cymwysterau canlynol:

  • City & Guilds Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • City & Guilds Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • CBAC Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

Bydd sesiynau, sy’n ail-adrodd bore a prynhawn, yn rhedeg yr un pryd a sesiynau rhwydweithio ar gyfer y cymhwyster Lefel 2 GChDDP Craidd. Bydd mynychwyr sy’n dymuno cymryd rhan yn y ddau rhwydwaith yn gallu dewis cymryd rhan yn y bore neu’r prynhawn ar gyfer y ddau cyfarfod ar yr un diwrnod neu ar dyddiad / leoliad arall. Cofrestrwch ar wahân ar gyfer y rhwydwaith Craidd drwy’r wefan yma: https://www.dysguiechydagofal.cymru/cyrsiau-a-digwyddiadau/

Bydd y digwyddiad rhwydwaith hwn o ddiddordeb i bawb sy'n ymwneud â chyflwyno, asesu a/neu sicrhau ansawdd y cymhwyster hwn. Bydd cynghorwyr technegol ac arbenigwyr pwnc o'r cyrff dyfarnu wrth law i gefnogi'r digwyddiad. Bydd cyfleoedd i'r canolfannau drafod eu profiadau o gyflwyno'r cymwysterau hyd yn hyn a pharatoi ymgeiswyr ar eu cyfer, o ran y cynnwys craidd, yr asesiad mewnol a'r asesiad allanol.

Yn y sesiwn bydd cyfle i gynrychiolwyr wneud y canlynol:

  • Rhannu ymarfer da a thrafod modelau cyflwyno effeithiol
  • Archwilio ymarfer gorau o ran cydrannau'r tasgau wedi'u gosod yn fewnol gan gynnwys y log myfyriol a'r drafodaeth dan arweiniad yr aseswr/proffesiynol.
  • Dathlu dulliau arloesol o ymgysylltu ac ymwneud â chyflogwyr.
  • Archwilio disgwyliadau'r Fframwaith Prentisiaeth newydd
  • Ystyried adnoddau i gefnogi ymarfer gorau wrth Wirio'n Fewnol
  • Adolygu cynnwys yr arholiad ar gyfer Uned 216 a’r modelau cynllunio paratoi ar gyfer yr arholiad.
  • Cyfleoedd i holi cwestiynau i'r cynghorydd technegol a'r arbenigwyr pwnc

NODIADAU PWYSIG

  • Gall canolfannau (rhifau canolfannau unigol) gofrestru hyd at ddau gynrychiolydd i fynychu pob sesiwn
  • Digwyddiad digidol fydd hwn. Gofynnwn i bob cynrychiolydd ddod â dyfais ddigidol gyda nhw ar y diwrnod. Byddwn yn rhannu unrhyw ddogfennau neu bapurau i'w trafod yn ystod y digwyddiad dros e-bost ymlaen llaw. Dylai cynrychiolwyr eu llwytho i lawr fel y dymunent er mwyn iddynt fod ar gael iddyn nhw ar y diwrnod.
  • Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu. NI FYDD cinio yn cael ei ddarparu ond gwahoddir mynychwyr i ddod â cinio eu hunain gyda nhw neu ddefnyddio’r cyfleusterau sydd ar gael yn y lleoliad neu’n lleol.

Pan fyddwch yn cofrestru am y digwyddiad hwn byddwn yn ymdrin â'ch data personol yn gwbl ofalus a phreifat. Prosesir eich data personol yn unol â'n polisi preifatrwydd yn unig.

I danysgrifio i dderbyn y newyddion diweddaraf am Dysgu Iechyd Gofal Cymru, cliciwch yma.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o'n digwyddiadau yn fuan.

Organised by

Sales Ended