Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2 a Lefel 3 GChDDP:Ymarfer / Ymarfer a Theori (Llanrwst sesiwn PRYNHAWN)
Date and time
Location
Canolfan Glasdir
Plas yn Dre Llanrwst Conwy LL26 0DF United KingdomDescription
Bwriad y digwyddiad rhwydwaith hanner diwrnod, rhad ac am ddim hwn, yw cefnogi'r sawl sy'n cyflwyno'r cymwysterau canlynol:
- City & Guilds Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- City & Guilds Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- CBAC Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
Bydd sesiynau, sy’n ail-adrodd bore a prynhawn, yn rhedeg yr un pryd a sesiynau rhwydweithio ar gyfer y cymhwyster Lefel 2 GChDDP Craidd. Bydd mynychwyr sy’n dymuno cymryd rhan yn y ddau rhwydwaith yn gallu dewis cymryd rhan yn y bore neu’r prynhawn ar gyfer y ddau cyfarfod ar yr un diwrnod neu ar dyddiad / leoliad arall. Cofrestrwch ar wahân ar gyfer y rhwydwaith Craidd drwy’r wefan yma: https://www.dysguiechydagofal.cymru/cyrsiau-a-digwyddiadau/
Bydd y digwyddiad rhwydwaith hwn o ddiddordeb i bawb sy'n ymwneud â chyflwyno, asesu a/neu sicrhau ansawdd y cymhwyster hwn. Bydd cynghorwyr technegol ac arbenigwyr pwnc o'r cyrff dyfarnu wrth law i gefnogi'r digwyddiad. Bydd cyfleoedd i'r canolfannau drafod eu profiadau o gyflwyno'r cymwysterau hyd yn hyn a pharatoi ymgeiswyr ar eu cyfer, o ran y cynnwys craidd, yr asesiad mewnol a'r asesiad allanol.
Yn y sesiwn bydd cyfle i gynrychiolwyr wneud y canlynol:
- Rhannu ymarfer da a thrafod modelau cyflwyno effeithiol
- Archwilio ymarfer gorau o ran cydrannau'r tasgau wedi'u gosod yn fewnol gan gynnwys y log myfyriol a'r drafodaeth dan arweiniad yr aseswr/proffesiynol.
- Dathlu dulliau arloesol o ymgysylltu ac ymwneud â chyflogwyr.
- Archwilio disgwyliadau'r Fframwaith Prentisiaeth newydd
- Ystyried adnoddau i gefnogi ymarfer gorau wrth Wirio'n Fewnol
- Adolygu cynnwys yr arholiad ar gyfer Uned 216 a’r modelau cynllunio paratoi ar gyfer yr arholiad.
- Cyfleoedd i holi cwestiynau i'r cynghorydd technegol a'r arbenigwyr pwnc
NODIADAU PWYSIG
- Gall canolfannau (rhifau canolfannau unigol) gofrestru hyd at ddau gynrychiolydd i fynychu pob sesiwn
- Digwyddiad digidol fydd hwn. Gofynnwn i bob cynrychiolydd ddod â dyfais ddigidol gyda nhw ar y diwrnod. Byddwn yn rhannu unrhyw ddogfennau neu bapurau i'w trafod yn ystod y digwyddiad dros e-bost ymlaen llaw. Dylai cynrychiolwyr eu llwytho i lawr fel y dymunent er mwyn iddynt fod ar gael iddyn nhw ar y diwrnod.
- Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu. NI FYDD cinio yn cael ei ddarparu ond gwahoddir mynychwyr i ddod â cinio eu hunain gyda nhw neu ddefnyddio’r cyfleusterau sydd ar gael yn y lleoliad neu’n lleol.
Pan fyddwch yn cofrestru am y digwyddiad hwn byddwn yn ymdrin â'ch data personol yn gwbl ofalus a phreifat. Prosesir eich data personol yn unol â'n polisi preifatrwydd yn unig.
I danysgrifio i dderbyn y newyddion diweddaraf am Dysgu Iechyd Gofal Cymru, cliciwch yma.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o'n digwyddiadau yn fuan.