Cyflwyniad i Microsoft 365 | Introduction to Microsoft 365
Event Information
About this Event
MI FYDD Y SESIWN HON YN CAEL EI GYNNAL YN SAESNEG AR-LEIN. Mae yna ddogfennau Cymraeg ar gael os oes angen.
THIS SESSION WILL BE DELIVERED IN ENGLISH ONLINE. Welsh documents are available upon request.
------------------------------------------------------
Beth fydd dan sylw yn y digwyddiad?
Cyflwyniad i Microsoft 365 a'i ddatrysiadau busnes ar y cwmwl, a byddwn yn edrych ar yr ystod o gyfrifon sydd ar gael, sefydlu eich cyfrif ac ychwanegu nifer o ddefnyddwyr o fewn eich busnes.
Ar ôl ei sefydlu, byddwn yn edrych ar yr offer digidol gwahanol sydd ar gael, megis Outlook ar gyfer e-byst, OneDrive ar gyfer storio ar-lein a Calendar ar gyfer rheoli eich amser yn effeithiol, a llawer mwy.
Ar ôl taith ac arddangosfa o'r llwyfan, bydd cyfle i fynychwyr ymuno mewn sesiwn Holi ac Ateb, lle gellir teilwra cymorth i fodloni eich anghenion penodol.
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?
Mae'r gweithdy hwn wedi ei anelu at unrhyw fusnes, bach neu fawr, sydd eisiau ychwanegu datrysiadau cwmwl a Microsoft 365 i'w busnes.
Cefndir y siaradwr
Jonathan Evans - Rwy'n Hyfforddwr Digidol, sef arbenigwr digidol sy'n cynnig cymorth i fusnesau newydd neu bresennol ysgolion ac elusennau. Rwy'n ymdrin â phopeth digidol, o ddylunio graffig/gwefan, gweithio/cydweithio ar-lein, sefydlu dyfais a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eich busnes. Rwy'n darparu pecynnau hyfforddi unigryw sy'n cael eu darparu o bell i staff, ac yn darparu cymorth parhaus drwy gyfathrebu drwy fideos ac e-byst.
********
What will the event cover?
An introduction to Microsoft 365 and its cloud-based business solutions, we’ll be looking at the various accounts available, setting up your account and adding multiple users within your business.
Once setup we’ll take a look at the different digital tools on offer such as Outlook for email, OneDrive for online storage and Calendar for managing your time effectively and much more.
After a tour and demo of the platform, there will be an opportunity for attendees to join a Q&A where support can be tailored to meet your specific needs.
Who is this workshop for?
This workshop is aimed at any business, small or large, looking to add cloud solutions and Microsoft 365 to their business.
About the speaker
Jonathan Evans - As the DigiCoach I am a digital expert offering support to new or existing businesses, schools and charities. I cover all things digital from graphic/web design, working/collaborating online, device setup and using social media to promote your business. I provide bespoke training packages that are delivered remotely to staff with ongoing support provided via video and email communications.
Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu gofod arloesol i ddeori a sbarduno busnesau newydd a’r rhai sy'n ehangu. Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru
Mae'r digwyddiadau a ddarperir neu a gynhelir gan raglen Hybiau Menter Ffocws Llywodraeth Cymru am ddim ac yn agored i bobl o bob oedran, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae'r niferoedd yn brin a disgwyliwn alw mawr am lefydd, felly archebwch yn gynnar i ddiogelu'ch lle.
Focus Enterprise Hubs are an innovative space to incubate and accelerate new, and growing businesses. Focus Newtown and Focus Carmarthen Enterprise Hubs are part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government
Events delivered or hosted by the Focus Enterprise Hubs programme for the Welsh Government are free and open to all ages but must be booked in advance. Please be advised that numbers are limited and we expect high demand for places, so book early to secure your place.
Gwelir isod am ein datganiad preifatrwydd
https://businesswales.gov.wales/cy/busnes-cymru-datganiad-preifatrwydd
Our Privacy Policy can be found here
https://businesswales.gov.wales/business-wales-operational-privacy-statement