Ymunwch gyda ni ar gyfer cyflwyniad ar-lein sy'n rhoi trosolwg i chi o:
• Senedd Cymru – pwy ydym ni a’r hyn a wnawn
• Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru
• Cynrychioli chi a'ch cymuned: Aelodau o’r Senedd
• Dweud eich dweud
Dyma gyfle i ddod i wybod sut y gallwch chi wneud yn siwr bod eich llais yn cael ei glywed.
Bydd linc i'r digwyddiad yn cael ei ddanfon atoch drwy e-bost 1 awr cyn i'r sesiwn ddechrau.
Mae croeso i chi anfon eich cwestiynau atom ymlaen llaw wrth gofrestru.
Os ydych yn dymuno, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y sesiwn drwy gysylltu gyda'n llinell archebu ar 0300 200 6565 neu drwy e-bostio cysylltu@senedd.cymru
Sylwer os gwelwch yn dda: mae angen app Teams ar gyfer ymuno â'r sesiwn yma ar ddyfais ffôn symudol.
Datganiad Diogelwch Data
Byddwn yn rheoli tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn drwy ddefnyddio Eventbrite. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i gysylltu â chi am y digwyddiad, ac i gasglu unrhyw adborth am eich profiad. Dim ond at y diben hwn y byddwn yn defnyddio eich data, a gedwir unrhyw ddata am gyfnod o hyd at 6 mis cyn cael ei ddileu'n barhaol.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd llawn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y caiff eich gwybodaeth ei ddefnyddio, rhowch wybod i aelod o staff y Senedd cyn, neu yn ystod y digwyddiad, neu e-bostiwch contact@senedd.cymru.