Cyllid ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial (AI) Funding for AI
Date and time
Location
Online event
Digwyddiad sydd yn edrych ar ariannu yng Nghymru / An event looking at funding in Wales
About this event
Welsh
Ydych chi’n chwilio am gyllid i gefnogi eich gwaith AI ac arloesedd digidol ym maes iechyd a gofal?
Bydd darpar gyllidwyr o bob rhan o’r sbectrwm yn bresennol yn y digwyddiad yn sôn am rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i’r GIG, i’r byd academaidd ac i ddiwydiant gan drafod y dulliau gorau o wneud cais am gyllid i gefnogi AI ac arloesedd digidol ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.
Byddwn yn edrych ar y cyd-destun cyllido presennol yng Nghymru ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd sylweddol ym maes iechyd a gofal o ran AI ac arloesedd digidol.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i gyllidwyr ymgysylltu â rhanddeiliaid o ecosystem arloesi rhyng-gysylltiedig a dwys iawn ar draws GIG Cymru, y byd academaidd a diwydiant.
Deall cyllid
Bydd y digwyddiad yn helpu sefydliadau yng Nghymru i ddeall y canlynol:
- y cyllid sydd ar gael ar gyfer prosiectau AI ac iechyd a gofal digidol,
- y cymorth sydd ar gael heblaw am arian, a’r
- ffyrdd gorau o gael gafael ar gyllid.
English
Are you looking for funding to support your work in AI and digital innovation for health and care?
Our event will see prospective funders from across the spectrum showcasing some of the opportunities available to NHS, academia and industry in Wales and discussing the best approaches for bidding for funding to support AI and digital innovation for health and care in Wales.
We will look at the current funding landscape in Wales, and highlight the significant opportunities in AI and digital innovation for health and care.
The event will be an opportunity for funders to engage with stakeholders from a compact and highly interlinked innovation ecosystem across NHS Wales, academia and industry.
Understanding funding
The event will help Wales-based organisations to understand the:
- funding available for AI and digital health and care projects,
- non-financial support available, and
- best routes to access funding.