Cymhwyster Lefel 2 a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer - disgrifiad am y digwyddiad rhwydweithio (Sir y Fflint)
Date and time
Location
Coleg Cambria
Kelsterton Road Connah's Quay Deeside CH5 4BR United KingdomDescription
Mae’r digwyddiad hanner diwrnod hwn yn cefnogi’r rhai sy’n darparu’r cymhwysterau canlynol:
• City & Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
• City & Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
• City & Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
Bydd y digwyddiad o ddiddordeb i’r rhai sydd ynghlwm â darparu, asesu a/neu sicrhau ansawdd y cymhwysterau a rhestrir uchod. Bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan ymgynghorwyr technegol ac arbenigwyr pwnc o’r cyrff dyfarnu ac yn cynnig cyfleoedd i ganolfannau drafod eu profiadau o ddarparu a pharatoi ymgeiswyr am y cymwysterau hyd yma, eu cynnwys, asesu mewnol ac asesu allanol.
Bydd y sesiwn yn cynnig y cyfle i gynrychiolwyr i:
-
Rannu arfer da a thrafod modelau gweithredu effeithiol
-
Archwilio arfer gorau o ran cydrannau’r tasgau wedi eu llunio’n fewnol gan gynnwys y log adfyfyriol a’r drafodaeth wedi’i arwain gan aseswr/trafodaeth broffesiynol
-
Ddathlu dulliau arloesol i ymrwymiad a gweithrediad y cyflogwr
-
Archwilio goblygiadau sy’n codi o’r Fframweithiau Prentisiaeth
-
Archwilio adnoddau i gefnogi arfer gorau mewn gwirio mewnol
-
Gyfleoedd cwestiwn ac ateb gyda’r ymgynghorwyr technegol ac arbenigwyr pwnc
NODWCH
Gall canolfannau (rhifau canolfan unigol) gofrestru hyd at ddau gynrychiolydd am bob digwyddiad.
Bydd hwn yn ddigwyddiad digidol felly rydyn ni’n gofyn bod y cynrychiolwyr i gyd yn dod â dyfais ddigidol gyda nhw ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd unrhyw ddogfennau neu bapurau sy’n cael eu trafod yn ystod y digwyddiad yn cael eu rhannu ar ebost cyn dyddiad y digwyddiad. Dylai cynrychiolwyr lawr lwytho’r rhain a sicrhau mynediad iddynt ar y diwrnod.
Cyfeiriad y Lleoliad
Coleg Cambria, Ffordd Celstryn, Cei Conna, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 4BR