Cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd - Disgrifiad am y Digwyddiad Rhwydweithio (Wrecsam)

Cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd - Disgrifiad am y Digwyddiad Rhwydweithio (Wrecsam)

By City & Guilds/WJEC

Date and time

Mon, 9 Dec 2019 13:30 - 16:30 GMT

Location

Wrexham Glyndwr University

Mold Road Wrexham LL11 2AW United Kingdom

Description

Mae’r digwyddiad hanner diwrnod hwn yn cefnogi’r rhai sy’n darparu’r cymhwyster City & Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.

Bydd y digwyddiad o ddiddordeb i’r rhai sydd ynghlwm â darparu, asesu a/neu sicrhau ansawdd y cymhwyster hwn a bydd yn cael ei gefnogi gan ymgynghorwyr technegol ac arbenigwyr pwnc o’r cyrff dyfarnu.

Bydd y rhwydwaith yn cynnig cyfleoedd i ganolfannau i drafod eu profiadau o ddarparu’r cymhwyster a pharatoi ymgeiswyr am y cymhwyster hyd yma, y cynnwys creiddiol, asesu mewnol ac asesu allanol.


Bydd y sesiwn yn cynnig y cyfle i gynrychiolwyr i:

• Rannu arfer da a thrafod modelau gweithredu effeithiol

• Drafod profiadau gweinyddu’r asesiad mewnol, gan gynnwys gweithgareddau safoni yn y ganolfan

• Ddathlu dulliau arloesol i ymrwymiad ac ymglymiad gan gyflogwyr

• Archwilio goblygiadau sy’n codi o’r Fframweithiau Prentisiaeth

• Archwilio arfer gorau mewn dulliau sicrhau ansawdd/safoni

• Gyfleoedd cwestiwn ac ateb gyda’r ymgynghorwyr technegol ac arbenigwyr pwnc


NODWCH
Gall canolfannau (rhifau canolfan unigol) gofrestru hyd at ddau gynrychiolydd am bob digwyddiad.




Bydd hwn yn ddigwyddiad digidol felly rydyn ni’n gofyn bod y cynrychiolwyr i gyd yn dod â dyfais ddigidol gyda nhw ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd unrhyw ddogfennau neu bapurau sy’n cael eu trafod yn ystod y digwyddiad yn cael eu rhannu ar ebost cyn dyddiad y digwyddiad. Dylai cynrychiolwyr lawr lwytho’r rhain a sicrhau mynediad iddynt ar y diwrnod.




Cyfeiriad y Lleoliad

Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd Yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW


Organised by

Sales Ended