Cymunedau sy'n Deall Dementia ym Mhowys - beth nesaf?
Event Information
Description
Nodau
Dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd sydd eisoes yn gweithio i wneud Powys yn ardal sy’n Deall Dementia, ac i adeiladu ar y gwaith rhyfeddol sy’n cael ei wneud yn barod.
- cyfarfod â phobl eraill sy’n ymdrechu i droi eu cymunedau yn gymunedau sy'n Deall Dementia, a dysgu ganddynt
- dod â grwpiau cymunedol a mentrau gwirfoddol a gweithwyr proffesiynol a sefydliadau allweddol yn y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus at ei gilydd
- pwyso a mesur yr hyn sydd wedi gweithio, a dod i benderfyniad ynghylch sut y gallwn wella pethau yn y dyfodol
- rhannu arferion da a ffynonellau gwybodaeth
- archwilio ffyrdd o gydweithio yn y dyfodol
- canfod ardaloedd a meysydd allweddol i'w cynnwys mewn gwaith partneriaeth yn y dyfodol
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu i sicrhau bod y lle maen nhw’n byw neu’n gweithio ynddo yn amgylchedd mwy cefnogol ar gyfer pobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr.