Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 - WISERD Annual Conference 2022

Ticket sales have ended

This event has now closed, for future WISERD events please see our website http://www.wiserd.ac.uk/training-events/

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 - WISERD Annual Conference 2022

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022

By WISERD

Date and time

Wed, 6 Jul 2022 09:00 - Thu, 7 Jul 2022 16:00 GMT+1

Location

Bay Campus, Swansea University

Fabian Way Crymlyn Burrows Swansea SA1 8EN United Kingdom

Refund Policy

Contact the organiser to request a refund.
Eventbrite's fee is nonrefundable.

About this event

English text appears below

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022: Cymdeithas sifil a chymryd rhan: materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy'n newid

6-7 Gorffennaf 2022

Campws y Bae, Prifysgol Abertawe

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 dros ddau ddiwrnod (dydd Mercher, 6 Gorffennaf tan ddydd Iau, 7 Gorffennaf) ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Gall cydweithwyr sy’n gweithio ym meysydd addysg a pholisi ac yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru ddod i’r gynhadledd.

Thema’r gynhadledd eleni yw 'Cymdeithas sifil a chymryd rhan: materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy'n newid'. Bydd amrywiaeth o gyflwyniadau’n cael eu rhoi ar y themâu allweddol canlynol:

• Cymdeithas Sifil, Cymryd Rhan a Llywodraethu

• Cymryd Rhan, Diwylliant a Hunaniaeth Iaith

• Tlodi a chyfiawnder cymdeithasol

• Cysylltiadau Byd-eang Cymru: Cymdeithas Sifil a Chymryd Rhan mewn Cyd-destun

• Cymryd Rhan a Chymdeithas Sifil drwy Gwrs Bywyd

• Cymryd Rhan mewn Addysg

• Cymryd Rhan yn y Farchnad Lafar

• Gweithio gyda Chymunedau

• Ymchwil am Gymryd Rhan ym meysydd Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

• Ymchwil am Actifiaeth a Chymdeithas Sifil

• Gwneud Ymchwil am Gymryd Rhan a Gweithredu

Prif Siaradwyr

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai ein prif siaradwyr fydd yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth, a Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan.

Cystadleuaeth poster myfyrwyr PhD - noddir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru

Mae myfyrwyr PhD yn cael cyfle i gyflwyno a thrafod eu posteri yn ystod egwyl cinio a lluniaeth cynhadledd flynyddol WISERD. Yn ystod egwyl lluniaeth y prynhawn ddydd Mercher 6 Gorffennaf, bydd cyfle hefyd i gyflwyno a thrafod cynnwys eu posteri gyda phanel adolygu.

Cyhoeddir yr enillydd ddydd Iau 7 Gorffennaf. Bydd gwobrau ar gael ar gyfer y posteri sydd yn y safle cyntaf, ail a thrydydd (a byddant yn cynnwys arian parod a thocynnau llyfrau).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag arddangos eich poster neu'r gystadleuaeth poster, anfonwch ebost at WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk a byddwn yn fwy na pharod i helpu.

Cadw eich lle

Bydd modd cofrestru i ddod i’r gynhadledd o 31 Mawrth 2022 ymlaen. Bydd angen i bawb sy'n cyflwyno gofrestru erbyn y dyddiad cau cynnar, sef 16 Mai 2022.

Llety

Bydd llety (sy’n cynnwys brecwast) ar gael ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau (5, 6 a 7 Gorffennaf) yn Neuaddau Preswyl Prifysgol Abertawe am £59.35 y noson.

Os bydd angen llety arnoch, dylech ebostio WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk neu ffonio 029 208 75260

Talu am eich llety

Bydd disgwyl i'ch sefydliad dalu am eich llety.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk neu ffonio 029 208 75260

Cofrestru Cynhadledd

Cyfraddau deuddydd

Cyfradd deuddydd safonol ar gyfer cofrestru’n gynnar: 6 a 7 Gorffennaf (ar gyfer cofrestru cyn 16 Mai 2022) – £140.00

Cyfradd deuddydd safonol i fyfyrwyr ar gyfer cofrestru’n gynnar: 6 a 7 Gorffennaf (i fyfyrwyr PhD presennol ar gyfer cofrestru cyn 16 Mai 2022) – £60.00

Cyfradd deuddydd safonol ar gyfer cofrestru’n hwyrach: 6 a 7 Gorffennaf (ar gyfer cofrestru ar ôl 16 Mai ond cyn 16 Mehefin) – £200.00

Cyfradd deuddydd safonol i fyfyrwyr ar gyfer cofrestru’n hwyrach: 6 a 7 Gorffennaf (i fyfyrwyr PhD presennol ar gyfer cofrestru ar ôl 16 Mai ond cyn 16 Mehefin) – £70.00

Cyfradd undydd

Cyfradd undydd ar gyfer cofrestru’n gynnar (ar gyfer cofrestru cyn 16 Mai 2022) – £70.00

Cyfradd undydd i fyfyrwyr ar gyfer cofrestru’n gynnar (i fyfyrwyr PhD presennol ar gyfer cofrestru cyn 16 Mai 2022) – £30.00

Cyfradd undydd safonol (ar gyfer cofrestru ar ôl 16 Mai ond cyn 16 Mehefin) – £100.00

Cyfradd undydd safonol i fyfyrwyr (i fyfyrwyr PhD presennol ar gyfer cofrestru ar ôl 16 Mai ond cyn 16 Mehefin) – £35.00

TELERAU AC AMODAU

Mae’r ffioedd cofrestru'n cynnwys costau cynnal sesiynau'r gynhadledd a chostau darparu cinio a lluniaeth. Nid yw’r ffioedd yn cynnwys costau teithio a llety.

Mae llety’n opsiwn ychwanegol, a rhaid talu amdano cyn y digwyddiad.

Ni all trefnwyr y gynhadledd dderbyn cyfrifoldeb am gostau yr aed iddynt os bydd yn rhaid ei chanslo o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth resymol.

Cyfraddau ar gyfer cofrestru’n gynnar: I fod yn gymwys am y cyfraddau hyn, rhaid cofrestru erbyn 16 Mai 2022. Os bydd unigolyn yn cofrestru ar ôl y dyddiad hwn, bydd yn rhaid iddo dalu’r gyfradd lawn.

Polisi Canslo: Rhoddir ad-daliad llawn i unigolion sy'n canslo cyn 16 Mai 2022. Codir ffi canslo o 50% ar unigolion sy’n canslo ar ôl 16 Mai 2022. Ni chaiff unrhyw arian ei ad-dalu os bydd unigolyn yn canslo ar ôl dydd Gwener, 3 Mehefin 2022. Mae'n rhaid canslo’n ysgrifenedig neu drwy ebost. Gellir anfon dirprwy, ond rhaid gofyn am gael gwneud hynny ymlaen llaw, a hynny'n ysgrifenedig neu drwy ebost.

Drwy anfoneb yn unig y derbynnir taliad. Unwaith y bydd y tocyn wedi'i archebu, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu taliad. Peidiwch â nodi manylion cerdyn credyd/debyd.

Gallwch ddarllen Polisi Preifatrwydd llawn WISERD i weld pa ddata rydym ni'n ei gadw, sut rydym ni'n ei ddefnyddio a beth yw'ch hawliau.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk neu ffonio 029 208 75260

WISERD 2022 Annual Conference: Civil society and participation: issues of equality, identity and cohesion in a changing social landscape

6 July - 7 July 2022

Bay Campus, Swansea University

The WISERD 2022 Annual Conference will take place over two days (Wednesday 6 - Thursday 7 July) at Swansea University, Bay Campus.

The conference is open to colleagues from across the academic, policy, public, private, and third sectors in Wales.

The theme for this year’s conference is ‘Civil society and participation: issues of equality, identity and cohesion in a changing social landscape’ and includes a variety of presentations on the following key themes:

• Civil Society, Participation and Governance

• Language Participation, Culture and Identity

• Poverty and Social Justice

• Wales Global Connections: Civil Society and Participation in Context

• Participation and Civil Society through the Life Course

• Participation in Education

• Participation in the Labour Market

• Working with Communities

• Participatory Research in Housing, Health and Social Care

• Activism and Civil Society Research

• Doing Participatory and Action Research

Keynote Speakers

We are delighted to be able to announce our keynote speakers will be Professor Mererid Hopwood, Aberystwyth University and Dr Victoria Winckler, Director of the Bevan Foundation.

PhD student poster competition - sponsored by the Learned Society of Wales and ESRC Wales Doctoral Training Partnership

PhD students have the opportunity to present and discuss their poster throughout the lunch and refreshments breaks during the WISERD annual conference. During the afternoon refreshment break on Wednesday 6 July, there will also be an opportunity to present and discuss the content of their poster with a reviewing panel.

The winner will be announced on Thursday 7 July and the prizes will be available for the posters ranked first, second and third (with prizes including cash and book tokens).

If you have any questions regarding displaying your poster or the poster competition, please email WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk and we’ll be happy to help

Booking

Registration for the conference opens on 29 March 2022 and all presenters will need to register by the early bird deadline of 16 May 2022.

Accommodation

Accommodation (including breakfast) is available on Tuesday 5, Wednesday 6 and Thursday 7 July in the Swansea University Halls at £59.35 per night.

If you require accommodation, please email: WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk or telephone: 029 208 75260

Payment for Conference accommodation

The cost of your accommodation will need to be covered by your institution.

If you have any queries please email: WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk or telephone: 029 208 75260

Conference Registration

Two Day Rates

Early Bird Standard Two Day Rate: 6 and 7 July (for bookings made prior to 16 May 2022) - £140.00

Early Bird Standard Student Two Day Rate: 6 and 7 July (for currently registered PhD students, for bookings made prior to 16 May 2022) - £60.00

Late Standard Two Day Rate: 6 and 7 July (for bookings made after 16 May and before 16 June) - £200.00

Late Standard Student Day Rate: 6 and 7 July (for currently registered PhD students, for bookings made after 16 May and before 16 June) - £70.00

One Day Rate

Early Bird Day Rate (for bookings made prior to 16 May 2022) - £70.00

Early Bird Student Day Rate (for currently registered PhD students, for bookings made prior to 16 May 2022) - £30.00

Standard Day Rate (for bookings made after 16 May and before 16 June) - £100.00

Standard Student Day Rate (for currently registered PhD students, for bookings made after 16 May and before 16 June) - £35.00

TERMS & CONDITIONS

Conference registration fees include access to conference sessions, lunch and refreshments. Fees do not include travel or accommodation.

Accommodation is available as an optional extra and payment must be received prior to the event.

The organisers cannot accept liability for costs incurred in the event of the conference having to be cancelled as a result of circumstances beyond its reasonable control

Early Bird Rate: To qualify for ‘the Early Bird rate’ you must register by 16 May 2022. Bookings received after this date will be subject to the full delegate rate.

Cancellation Policy: A full refund will be given for any cancellations before 16th May 2022. Cancellations after 16 May 2022 will incur a 50% cancellation charge. No money will be refunded for cancellations after Friday 3 June 2022. Cancellation must be made in writing / by email. Substitutions are acceptable but must be requested in writing / by email in advance.

Please note that payment will only be accepted via invoice, once the ticket has been booked we will be in touch to arrange payment. Please do not enter credit/debit card details.

You can read WISERD's full Privacy Policy to find out what data we retain, how we use it and what your rights are.

If you have any queries please email: WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk or telephone: 029 208 75260

Organised by

The Wales Institute of Social and Economic Research and Data (WISERD) is a national, interdisciplinary, social science research institute. We have been designated by the Welsh Government as a national research centre. Using innovative approaches, our research spans the fields of economics, sociology, geography and political science.

We are a collaborative venture between the universities of Aberystwyth, Bangor, Cardiff, South Wales and Swansea – working together to improve the quality and quantity of social science research in Wales and beyond. Our research effects change by influencing the development of policy and practice across a range of sectors.

-------

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) yn sefydliad ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol cenedlaethol. Rydym wedi ein dynodi gan Lywodraeth Cymru’n ganolfan ymchwil genedlaethol. Gan ddefnyddio dulliau arloesol, mae ein hymchwil yn cwmpasu economeg, cymdeithaseg, daearyddiaeth a gwyddoniaeth wleidyddol. 

Rydym yn gydfenter rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe - yn cydweithio i wella safon a maint ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein hymchwil yn effeithio ar newid drwy ddylanwadu ar ddatblygiad polisi ac arfer ar draws ystod o sectorau.

Sales Ended