Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2025
Ymunwch â ni y mis Hydref hwn ar gyfer Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru! Mae’r digwyddiad wyneb yn wyneb am ddim hwn yn dod â phobl o bob cwr ?o Gymru a thu hwnt at ei gilydd i archwilio sut y gallwn gydweithio i adfer bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.
Eleni, byddwn yn archwilio sut y gallwn gymryd camau cynaliadwy gyda’n gilydd i sicrhau adferiad natur yng Nghymru. Rydym yn hynod o falch bod y gynhadledd yn cael ei hagor gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies (MS).
Os ydych chi'n gweithio ar y tir, afonydd, neu ar y môr, yn ymgysylltu â chymunedau, yn cyflawni polisïau, yn cynhyrchu tystiolaeth, neu hyd yn oed yn teimlo’n angerddol ynglŷn â natur – ymunwch â ni.
Rhoddir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin fel arfer, ond mae PBC yn neilltuo’r hawl i reoli’r archebion er mwyn sicrhau cydbwysedd cynrychioliadol o gynadleddwyr. Rhoddir blaenoriaeth i aelodau rhwydwaith PBC a sefydliadau sy’n ymwneud â chynllunio cadwraeth natur a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru.