Cyrsiau Wyna | Lambing Day Courses
Event Information
About this event
Scroll down for English
Cyfle i brofi holl gyffro’r sied wyna ar fferm Llwyn-yr-Eos yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Dan ofal arbenigol ein ffermwyr byddwch chi'n dysgu sut i ofalu am ddefaid beichiog, adnabod arwyddion esgor a delio â phroblemau cyffredin.
Os bydd genedigaeth yn ystod y diwrnod, bydd cyfle i dorchi llewys (os ydych chi am wneud!). Bydd cyfle hefyd i dreulio amser gyda'r mamau newydd a'u plant, gan ddysgu sut i adnabod anghenion gwahanol a helpu'r ŵyn bach drwy eu dyddiau cyntaf pwysig. Bydd yr amserlen yn hyblyg, yn dibynnu ar anghenion y sied wyna ar y diwrnod.Mae hwn yn gwrs i ddechreuwyr a does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o drin stoc. Bydd dau le i'w archebu bob diwrnod. Darllenwch y canllawiau isod cyn archebu lle.
Canllawiau a gwybodaeth diogelwch:
- Os ydych chi’n feichiog, yn ceisio am blentyn neu â phartner sy'n feichiog, darllenwch y canllawiau GIG canlynol. https://bit.ly/3GCqSQi
- Rydyn ni wedi trefnu'r dyddiadau i roi'r cyfle gorau o weld genedigaeth, ond mae wyna yn fusnes anwadal ac ni allwn warantu hyn.
- Rhaid i chi fod yn barod i wisgo hen ddillad a throchi - rydyn ni'n argymell trowsus gwrth-ddŵr (overtrousers). Byddwch chi bron yn bendant yn penlinio mewn baw defaid!
- Os ydych chi am dorchi llewys gofynnwn i chi dorri eich ewinedd a thynnu unrhyw farnais a modrwyau. Ein blaenoriaeth yn hyn o beth yw diogelwch y defaid.
- Caiff anturiaethau'r sied wyna eu darlledu yn fyw ar y #sgrinwyna ar wefan yr Amgueddfa. Mae unrhyw un sy'n archebu'r cwrs yn debygol o ymddangos (er taw'r defaid yw'r sêr). By purchasing a ticket, you agree to be filmed. Bydd yn rhaid i chi lofnodi ffurflen yn caniatáu ffotograffio a ffilmio ar y diwrnod.
Mae croeso i chi ddod â chinio gyda chi neu mae nifer o leoliadau yn yr Amgueddfa yn gwerthu bwyd. Mae na gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* ar gael i ddeiliaid tocynnau ein cyrsiau crefft (heblaw am Bobty Derwen)
Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion yn ystod yr wythnos cyn y digwyddiad, drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.
Iaith: Cynhelir y cwrs hwn drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg.
Gostyngiadau i fyfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy'n derbyn budd-daliadau, pobl dros 60 oed
Hygyrchedd: Gallai'r cwrs hwn fod yn anaddas i bobl â phroblemau symudedd oherwydd yr amodau yn y sied wyna. Cysylltwch cyn archebu i drafod unrhyw bryderon drwy e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk
Gostyngiadau: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a rhwng 16-18
Addasrwydd: 16+
-----------------------------------------------
A chance to experience the magic of a full day in the Museum's lambing shed at Llwyn-yr-eos Farm. Under the expert guidance of our farming team, you’ll learn how to care for pregnant sheep, recognise labour and deal with common problems.
If births happen during the day, there’ll be a chance to get really hands-on (if you want to!). There’ll also be time in the nursery with our new mums and babies – you’ll learn to assess welfare needs and help the lambs through those vital first few days of life. The schedule of the day will be flexible around what’s happening in the lambing shed at the time.This course is suitable for complete beginners – no previous stock handling experience required. There will be two places available to book on each day. Please read the guidance notes below before making a booking.
Guidance notes and safety information:
- Anyone who is pregnant, trying to get pregnant, or has a partner who is expecting, should read the following health guidelines from the NHS https://bit.ly/3GCqSQi
- We have scheduled these dates to give you the best chance of witnessing a birth, but lambing is an unpredictable business and we cannot guarantee it.
- You will need to wear old clothes and be happy to get dirty – we recommend overtrousers. (Kneeling in sheep poo is virtually guaranteed!)
- If you want to get hands on with the sheep we ask that you have short fingernails and remove any nail polish/rings etc. We reserve the right to protect the welfare of our sheep in this regard.
- Events from the lambing shed will be broadcast live on the Museum's website as part of #lambcam. As a result, anyone attending this course will be likely to appear (although the sheep are the stars of the show). By purchasing a ticket, you agree to be filmed. You will be required to sign a photography and filming release form on the day.
You are welcome to bring a packed lunch or visit our on-site catering facilities. Course participants are entitled to a 10% discount at our catering outlets across the Museum (excluding the Derwen Bakehouse).
The price of this course includes parking. The ticketing team will contact you in the weeks before the event to confirm arrangements , via the email supplied by you at time of booking.
Language: This course will be held in the first language of the facilitator - which is English.
Accessibility: This course may be unsuitable for those with mobility issues due to the nature of conditions in the lambing shed. Please contact us before booking to discuss any concerns via email to events@musemwales.ac.uk
Concession eligibility: Students with NUS or those in receipt of benefits, over 60s, 16-18s
Suitable: Age 16+