Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth - 20 Hydref 2016 / Show Racism the Red Card - 20 October 2016
Date and time
Location
Holiday Inn Newport
The Coldra Newport NP18 2YG United KingdomDescription
Hoffai Llywodraeth Cymru a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth eich gwahodd i weithdy AM DDIM a fydd yn gyffrous ac yn addysgiadol.
Mae'n bleser gennym gynnig lle AM DDIM i staff ysgol ar gyfer y digwyddiad ‘Hyrwyddo Cydraddoldeb a Threchu Hiliaeth yn eich Ysgol’.
Bydd yr hyfforddiant yn darparu amgylchedd diogel ac anfeirniadol er mwyn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ystyried:
• y rhwystrau i hyrwyddo cydraddoldeb a threchu hiliaeth
• sut i adnabod ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol a
• dryswch ynghylch terminoleg sy'n ymwneud ag ethnigrwydd.
Bydd yr hyfforddiant yn magu hyder wrth drafod materion a allai fod yn anodd, a bydd yn darparu dulliau ymarferol i herio hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb yn eich ysgol.
Y Rhaglen
Agor y digwyddiad - Pam rydyn ni yma heddiw?
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y rhwystrau i hyrwyddo cydraddoldeb yn eich ysgol; y mythau ynghylch gwaith cydraddoldeb a'r cyd-destun cyfoes, y ddeddfwriaeth bresennol a’r dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Gweithdy - Adnabod Hiliaeth ac Ymateb iddi
Mae'r gweithdy hwn yn ystyried agweddau gwahaniaethol, yn diffinio digwyddiad sy'n ymwneud â hiliaeth/rhagfarn, ac wedyn yn mynd yn ei flaen i weithgaredd sy'n edrych ar arferion gorau wrth ymateb i hiliaeth yn yr ysgol, pan fyddwch yn delio â disgyblion. Bydd yn gorffen gydag awgrymiadau ar sut i herio hiliaeth yn effeithiol.
Gweithdy - Iaith Cydraddoldeb
Mae'r sesiwn hon yn gofyn i gynrychiolwyr feddwl am natur bwerus y math o iaith a ddefnyddir yn eich ysgol ac o fewn cymdeithas. Bydd gweithgaredd dilynol yn edrych ar ddefnyddio terminoleg sy'n ymwneud ag ethnigrwydd yn briodol. Bydd yn darparu cyngor ymarferol a chanllawiau ynghylch herio iaith amhriodol gyda phobl ifanc.
Cau'r digwyddiad - Sylwadau a Chwestiynau
Bydd y sesiwn olaf hon yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ystyried sut y bydd eu harferion yn newid, trafod unrhyw beth a oedd yn anodd, a gofyn unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi cael eu hateb.
________________________________________________________________________
Welsh Government and Show Racism the Red Card would like to invite you to an exciting and informative FREE workshop event.
We are pleased to offer school staff a FREE place at ‘Promoting Equality and Tackling Racism in your School’.
The training will provide delegates with a safe, non-judgmental environment to consider:
• the barriers to promoting equality and tackling racism
• how to recognise and respond to racist incidents and
• confusion about terminology relating to ethnicity.
The training will build confidence in talking about potentially difficult issues and will provide practical ways to challenge racism and promote equality in your school.
Event Programme
Open - Why are we here today?
This session will look at the barriers to promoting equality in your school; the myths surrounding equality work and the contemporary context, current legislation and Equality Act duties.
Workshop - Recognising and Responding to Racism
This workshop looks to consider discriminatory attitudes, define a racist/prejudice related incident and proceed to an activity which looks at best practice in responding to racism in school, when dealing with pupils. It will end with tips on how to challenge racism effectively.
Workshop - The Language of Equality
This session asks delegates to reflect on the powerful nature of language in your school and society. A follow up activity will look at appropriate use of terminology relating to ethnicity. It will provide practical advice and guidance on challenging inappropriate language with young people.
Close - Reflections and Questions
This final session gives participants the opportunity to reflect on how and if there practice will change, to discuss anything they found difficult and ask any questions that have not been answered.