Darlith Gyhoeddus | Yr Athro Professor Iolo Madoc-Jones, Public Lecture
Yn ymdrin â'r heriau o orfodi gwahardd hela llwynogod / On the challenges of enforcing the fox hunting ban
Date and time
Location
Wrexham University
Mold Road Wrexham LL11 2AW United KingdomAgenda
5:30 PM - 6:00 PM
Bwyd, diod a rhwydweithio/Food, drink, and networking
6:00 PM - 7:00 PM
Darlith a chwestiynau/Lecture and questions
6:00 PM - 6:30 PM
Rhwydweithio/Networking
About this event
- 2 hours
English below
Yn ymdrin â'r heriau o orfodi gwahardd hela llwynogod
Yr Athro Iolo Madoc-Jones
Athro mewn Cyfiawnder Cymdeithasol a Throseddol
A ninnau ar drothwy ugain mlynedd ers cyflwyno Deddfwriaeth Hela 2004, mae'r cyflwyniad hwn yn rhoi ystyriaeth i'r heriau sy'n wynebu'r heddlu wrth geisio gorfodi'r gwaharddiad ar hela yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Cyflwynir data o waith ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2023 ynglŷn â bodlonrwydd y gwaith o blismona wedi'i seilio ar wybodaeth a gasglwyd gan unigolion fu'n rhan cymryd rhan, yn protestio, neu a effeithiwyd gan hela. Trafodir a ddylid ystyried hela llwynogod fel unrhyw drosedd arall: yn cael ei hamgyffred fel gweithred o anufudd-dod dinesig neu fel her i gyfreithlondeb y system gyfiawnder droseddol. Yn ei dro, trafodir sut wedd fyddai o bosibl ar orfodaeth gymesur o'r gwaharddiad ar hela.
AM Y SIARADWR
Mae'r Athro Iolo Madoc-Jones yn Gyfarwyddwr Cyfiawnder: Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol, yng Nghyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth mewn cyfnodolion ym maes troseddeg a gwaith cymdeithasol ac wedi cyflwyno ei waith mewn cynadleddau academaidd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei ddiddordebau academaidd yn cynnwys profiannaeth, carchardai, digartrefedd a phlismona.
Cysylltwch â researchoffice@glyndwr.ac.uk fydd yn eich helpu gydag unrhyw ymholiadau.
_______________________________________________________________________________________________________________
On the challenges of enforcing the fox hunting ban
Professor Iolo Madoc-Jones
Professor in Social and Criminal Justice
As the twenty-year anniversary of the 2004 Hunting Act approaches, this talk considers the enforcement challenges faced by police seeking to enforce the hunting ban in North Wales and beyond. It presents data from research published in January 2023 about satisfaction with policing based on data collected from individuals involved in, protesting, or otherwise affected by hunting. It considers whether illegal fox hunting should be understood like any other crime: perceived as an act of civil disobedience or as a challenge to the legitimacy of the criminal justice system. In turn, it then considers what proportionate enforcement of the hunting ban might look like.
ABOUT THE SPEAKER
Professor Iolo Madoc-Jones is a Director of Cyfiawnder: The Social Inclusion Research Institute in the Faculty of Social and Life Sciences at Wrexham University. He has published in a range of criminology and social work journals and has presented his work at national and international academic conferences. His areas of academic interest include probation, prisons, homelessness and policing.
Please contact researchoffice@glyndwr.ac.uk with any queries.
Frequently asked questions
Wrth gwrs! Sicrhewch, fodd bynnag, eich bod yn cyrraedd ar amser er mwyn osgoi colli dechrau’r ddarlith.
Absolutely! Just make sure you arrive in time as you won't want to miss the start of the lecture.
Oes. Y fynedfa rwyddaf yw Ffordd yr Wyddgrug, ac mae digonedd o fannau parcio am ddim, yn ogystal â mannau parcio i’r anabl ger y fynedfa.
Yes. The easiest entrance is Mold Road, and there are plenty of free parking spaces, as well as some disabled spaces near the entrance.
Oes wir! Byddwn yn uwchlwytho’r fideo a’r cyflwyniad toc ar ôl y digwyddiad. Anfonwch e-bost i researchoffice@wrexham.ac.uk os hoffech i ni anfon e-bost atoch pan fydd y recordiad yn barod.
Yep! We will upload the video and presentation shortly after the event. Please email researchoffice@glyndwr.ac.uk if you would like us to email you when the recording is ready.
Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod pob ystafell ddarlithio’n hygyrch, ond os oes gennych anghenion penodol, cysylltwch â ni ymlaen llaw fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn darparu ar eu cyfer.
We try to ensure all lecture rooms are accessible, but if you have specific needs, please contact us beforehand so we can make sure we accommodate them.
Bydd! Bydd bwffe oer / dewis o frechdanau ar gael ynghyd ag amrywiaeth o de, coffi, dŵr a gwin.
Yes! There will be a cold buffet / sandwich selection alongside a variety of teas, coffee, water, and wine.