Dathlu'r Diwydiannau Creadigol - Creative Industries Showcase
Event Information
Description
Bilingual Text please scroll for English
Byddwch yn rhan o Ddathlu'r Diwydiannau Creadigol BECTU Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 11 Hydref lle bydd ein gwesteion arbennig yn cynnwys: Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn Llywodraeth Cymru, Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru a Leonora Thomson, Prif Weithredwr Opera Cenedlaethol Cymru.
Pam ymuno â ni?
Os ydych chi’n gweithio y tu ôl i’r llenni yn y byd teledu, ffilm, theatr neu ddigwyddiadau byw, dyma gyfle i ddysgu am y cymorth sylweddol sydd ar gael gan BECTU. Rydym ni’n rhoi sylw i anghenion staff a llawryddion ym mhob rôl nad ydynt yn rhai perfformio. Yn yr un modd, os ydych chi ar fin ymuno â’r diwydiant, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa greadigol, does unlle gwell i chi fod. Dyma gyfle i gyfarfod â sefydliadau a rhyddgyfranwyr allweddol yn y diwydiant, i gael profiad ymarferol o ddefnyddio gwahanol offer a chyfarfod â chynghorwyr arbenigol amrywiol.
Galwch heibio’n gyflym, neu ymunwch â ni am y prynhawn/nos i gael clywed barn yr arbenigwyr. Bydd y rhaglen yn cynnwys nifer o sgyrsiau byr, gan gynnwys:
- Bydd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr y BBC, yn siarad am gynlluniau’r BBC ar gyfer y dyfodol, pa gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer gweithlu heddiw ac yfory a gweithio gydag undebau.
- Bydd Ken Skates, Llywodraeth Cymru, yn siarad am gynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y sector creadigol sy’n tyfu a phwysigrwydd ymgysylltu â chyflogwyr/undebau.
- Crafty Business - bydd staff a lawryddion sy’n gweithio ym maes cynhyrchu, technegol a chrefft yn dangos eu sgiliau, yn sgwrsio am eu gwaith ac yn rhoi cyngor ar sut i gael eich troed i mewn ac aros yno.
- Bydd David Donovan, Swyddog Negodi BECTU (roedd y ffilm Pride yn sôn am ei hanes) yn siarad ac yn ateb cwestiynau am ei rôl yn cynrychioli aelodau BECTU yng Nghymru a’r De-orllewin am dros 25 mlynedd.
- Bydd Sgrin Cymru yn rhoi sylw i gynyrchiadau teledu a ffilm sy’n dod i Gymru a sut i fod yn rhan o’u cronfa ddata ar gyfer criwiau.
- Sut beth yw bod yn gynrychiolydd undeb? Ymunwch â’n panel o gynrychiolwyr o’r BBC, S4C, Canolfan Mileniwm Cymru a changen Llawrydd De Cymru i weld beth maen nhw’n ei wneud a sut mae o fudd i’r gweithlu; bydd gennych y cyfle i ofyn cwestiynau hefyd.
- Rhagor o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector creadigol, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru yn arwyddo’r Addewid Amser i Newid ar Iechyd Meddwl.
- Cyfle i gwrdd ag aelodau Fforwm Aelodau Ifanc BECTU i glywed am eu hymgyrchoedd a gweithgareddau
- Dewch i drafod gweithdai a digwyddiadau gyda staff ym mhrosiect dysgu BECTU – CULT Cymru
- Cyfle i drafod pensiynau, trethi ac iechyd a diogelwch gyda swyddog ymchwil BECTU, Tony Lennon
Dewch draw gyda’ch cwestiynau am aelodaeth BECTU, hawliau cyfreithiol, yswiriant a phrisiau gostyngol BECTU Plus. Ewch i’r ardal arddangos i glywed gan ein criwiau cynhyrchu, crefft a thechnegol o Ganolfan Mileniwm Cymru, Darlledwyr a Digwyddiadau Byw - a chael y newyddion diweddaraf am dueddiadau’r diwydiant a gwaith â thâl.
Bydd yn brynhawn/noson brysur a bydd y digwyddiad yn dirwyn i ben gyda chyfle i rwydweithio a diodydd o 7pm.
Croeso i bawb.
Dilynwch yr hashnodau hyn ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf am y rhaglen #siaradbectu #talkbectu
DS Byddwn yn gwneud ein gorau i gadw’r rhaglen fel y mae wedi’i hysbysebu, ond gall pethau newid yn sgil digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth.
---------------------------------------------------------------------------------
Be part of BECTU Cymru's Creative Industries Showcase at the Wales Millennium Centre on Wednesday 11 October where our special guests will include: Ken Skates, Cabinet Secretary for the Economy and Infrastructure at the Welsh Government, Rhodri Talfan Davies, Director, BBC Cymru and Leonora Thomson, Chief Executive, Welsh National Opera.
Why join us?
If you're working behind the scenes in TV, film, theatre or live events, here's an opportunity to find out more about the substantial support available from BECTU. We champion the needs of staff and freelancers in all non-performance roles. Equally, if you're about to enter the industry, or if you're interested in a creative career, there's no better place to be. This is an opportunity to meet key industry organisations and freelancers, to get hands on with some kit, and to meet a host of specialist advisors.
Drop by for a short while, or join us for an afternoon / evening of insights from people in the know. The programme will feature a number of short talks including:
- BBC Cymru Director Rhodri Talfan-Davies will talk about the BBC's plans for the future, what opportunities there are for the current and future workforce and working with unions
- Ken Skates - Welsh Government will talk about the Government's plans for the growing creative sector and the importance of employer / union engagement
- Crafty Business - staff and freelancers working in production, technical and craft roles will demonstrate their skills, talk about their work and give tips on how to get in and get on
- BECTU's Negotiations Officer David Donovan (whose story featured in the film Pride) will speak and answer questions about his role in representing BECTU members in Wales and the South West for over 25 years.
- Screen Wales will present on TV and film productions coming into Wales and how to get onto their crew database
- What's it like to be a union rep? Join our panel of reps from the BBC, S4C, Wales Millenium Centre and our South Wales Freelance branch to find out what they do and how it benefits the workforce; you'll have the chance to put your questions too
- Find out about equality and diversity in the creative sector including the signing of the Time to Change Pledge on Mental Health by the Welsh National Opera
- Meet members of BECTU's Young Members' Forum to hear about their campaigns and activities
- Discuss workshops and events with staff at BECTU's learning project - CULT Cymru
- Talk about pensions, tax and health and safety with BECTU's research officer, Tony Lennon
Come along with your questions about BECTU membership and legal rights and learn more about low cost insurances and BECTU Plus discounts. New members joining BECTU on the day will save on their first year's membership. Visit the exhibition area to hear from our production, craft and technical crews from the Wales Millennium Centre, broadcasters and live events; find out more too about the latest news on industry trends and paid work.
It'll be a busy afternoon / evening and the event will wrap with networking drinks from 7pm.
All welcome.
Follow these hashtags on twitter to keep up to date with the programme #talkbectu #siaradbectu
NB: We'll do our best to keep the programme as advertised but this is subject to change due to events beyond our control.