
Digital Tuesday Presents: Space Tech
Date and time
Description
B2B, B2C... ever considered B2S? You could be sat on the technology, innovation and ideas the space industry needs - and you may not even know it.
Next week we're inviting the European and UK Space Agencies, Innovate UK and more along to Digital Tuesday to life the lid on the very real possibilities of space tech.
They'll be showing you the wider opportunities in space tech for all aspects of the industry, the funding available, and the avenues into this exciting sector that you may have never considered.
This event is partnered with Satellite Applications Catapult, held at Life Sciences Hub Wales, who are hosting a day event to explore the infinite opportunities around digital technologies in space. This will lead directly into the evening Digital Tuesday.
See you there!
The Digital Tuesday Team
-------
Yn ogystal â chynnal gŵyl dechnoleg fwyaf Cymru, rydyn ni hefyd yn trefnu Dydd Mawrth Digidol arbennig iawn ym mis Mai. Alli di ddim dweud nad ydyn ni’n gofalu amdanat ti…
Fis nesaf, rydyn ni’n cydweithio gyda Catapult Satellite Applications i drefnu digwyddiad drwy’r dydd â dwy gangen, yn archwilio’r cyfleoedd diddiwedd ynghylch technoleg ddigidol yn y gofod. Byddwn ni’n mynd â thi ar ehediad drwy’r gofod trwy roi sgyrsiau diddorol, gweithdai gafaelgar a chyfleoedd di-ben-draw.
Bydd hyn yn arwain yn uniongyrchol at Ddydd Mawrth Digidol gyda’r nos, ac rydym yn addo y bydd hi’n noson arallfydol. Byddwn yn ehangu’r pwnc er mwyn ystyried y cyfleoedd ehangach ym maes technoleg y gofod ar gyfer pob agwedd o’r diwydiant, y cyllid sydd ar gael, a’r llwybrau i’r sector cyffrous hwn, efallai nad wyt ti wedi’u hystyried erioed.
Galli di gofrestru heddiw, felly cofia baratoi dy docynnau, cadw’r dyddiad a hedfan draw i Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer diwrnod a fydd yn siŵr o oleuo, sbarduno ac ysbrydoli.
Sylwer mai cofrestru ar gyfer rhan Dydd Mawrth Digidol o’r diwrnod sydd yma. Os wyt ti’n bwriadu mynd i’r digwyddiad yn ystod y dydd hefyd, mae modd cofrestru yma.
Tan hynny,
Tîm Dydd Mawrth Digidol