Digital Tuesday presents...MedTech!
Event Information
Description
Digital Tuesday Presents....
Medical Technology (MedTech) is one of Wales' major industrial strengths with established clusters featuring some of the world’s most progressive companies.
This is an event for the whole Digital Tuesday community, since Medtech involves a wide range of digital technology applications, including AI, robotics and machine learning. Come and see how your innovation might be relevant to the medical sector. Also, If you are an SME with a MedTech relatable product in need of funding or support, a clinician with a great idea or a tech industry insider curious to talk ideas with a likeminded community, then this is the event for you!
Paul Matthews, Chief Executive at Monmouthshire County Council will be taking to the stage to announce some exciting news for the future of MedTech in Monmouthshire.
Joining Paul Matthews will be Christian Kumar of Capital Kinetics Limited and Chris Hancock, the Founder and Chief Technology Officer of Creo Medical, a Wales based MedTech company which is listed on the AIM market of the London Stock Exchange whose main focus is on the development and commercialisation of minimally invasive surgical devices, by bringing advanced energy to endoscopy. Creo’s mission is to improve patient outcomes by applying microwave and radiowave energy to surgical endoscopy.
Don’t miss out on hearing about some jaw dropping technology!
Tuesday 2 October 2018
Augusta Suite, Celtic Manor Resort Golf Club
5pm – 7:30pm
Why should I attend we hear you ask…
SME’s: We’ll be telling you about the funds available for companies interested in bidding for MedTech related funding competitions, as well as networking opportunities for collaboration and private funding.
Have an impressive medical technology that you’d like to demo? Please get in touch!
Clinicians: We can help to match you with innovative Welsh companies to help turn your medical idea into a reality.
All: Come and meet the innovative MedTech companies based in Wales who are developing ground breaking medical technology making a real impact on the future health and well-being of patients around the world!
What you waiting for? Go and grab your ticket now!
A HUGE thank you to Celtic Manor Resort for sponsoring this event!
P.S - Our Digital Tuesdays are becoming so popular that our events are now always sold out (which is great news!) So, we need to ask all you lovely participants a favour. We understand that things come up which mean that you are no longer able to attend. If this happens, please let us know so that we can release your ticket to somebody else within the growing Digital Tuesday community. Thank you.
Dydd Mawrth Digidol yn Cyflwyno...
Mae Technoleg Feddygol (MedTech) yn un o brif gryfderau diwydiannol Cymru, gyda chlystyrau sefydledig yn cynnwys rhai o gwmnïau mwyaf blaengar y byd.
Os ydych chi’n BBaCh gyda chynnyrch sy’n ymwneud â MedTech sydd angen cyllid neu gefnogaeth, yn glinigwr â syniad gwych, neu’n gweithio yn y diwydiant technoleg ac yn chwilfrydig i drafod syniadau gyda chymuned o’r un meddylfryd, yna dyma ddigwyddiad addas i chi!
Yn cymryd i’r llwyfan bydd Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy I gyhoeddi newyddion cyffrous am ddyfodol Medtech yn Sir Fynwy.
Yn ymuno a Paul Matthews bydd Christian Kumar, Capital Kinetics Limited a Chris Hancock, Sylfaenydd & Brif Swyddog Technoleg o Creo Medical, un o gwmniiau MedTech Cymru sydd wedi'i restru ar y farchnad AIM o Gyfnewidfa Stoc Llundain - a’i brif ffocws yw datblygu a masnacheiddio dyfeisiau llawfeddygol sy’n creu archoll mor fach â phosibl, trwy gyflwyno ynni datblygedig i endoscopi. Cenhadaeth Creo yw gwella canlyniadau cleifion trwy gymhwyso ynni micro-don a thon radio i endoscopi llawfeddygol.
Peidiwch â cholli allan ar glywed am ryw dechnoleg syfrdanol!
Dydd Mawrth, 2 Hydref 2018
Ystafell Augusta, Gwesty a Chlwb Golff Celtic Manor
5pm – 7:30pm
‘Pam ddylwn i fynychu?’ y clywn ni chi’n gofyn…
BBaChau: Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am y cyllid sydd ar gael i gwmnïau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gystadlaethau ariannu cysylltiedig â MedTech, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer cyllid preifat a chydweithredu.
A oes gennych chi dechnoleg feddygol drawiadol yr hoffech ei harddangos? Cysylltwch gyda ni.
Clinigwyr: Gallwn helpu i’ch paru chi â chwmnïau arloesol yng Nghymru i’ch helpu i droi eich syniad meddygol yn realiti.
Pawb: Dewch i gyfarfod â’r cwmnïau MedTech arloesol yng Nghymru sy’n datblygu technoleg feddygol arloesol sy’n cael effaith wirioneddol ar iechyd a lles cleifion yn y dyfodol, ledled y byd.
Pam oedi? Ewch i archebu eich tocyn nawr!
Diolch ENFAWR i Westy’r Celtic Manor am noddi’r digwyddiad hwn!
O.N. – Mae ein digwyddiadau Dydd Mawrth Digidol yn dod mor boblogaidd, maen nhw bob amser yn llawn (sy’n newyddion gwych!) Felly, mae angen i ni ofyn ffafr i chi. Rydym ni’n deall y bydd sefyllfaoedd yn codi, a fydd yn golygu na allwch fynychu mwyach. Os bydd hyn yn digwydd, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhyddhau eich tocyn i rywun arall yng nghymuned gynyddol Dydd Mawrth Digidol. Diolch.