Diwrnod Agored Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant 29 Tachwedd 2025

Diwrnod Agored Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant 29 Tachwedd 2025

By University of Wales Trinity Saint David

Mae mynychu Diwrnod Agored yn ffordd ardderchog i chi ddysgu am y Brifysgol a’n cyrsiau.

Date and time

Location

Swansea College of Art, UWTSD

Alexandra Road Swansea SA1 5DU United Kingdom

Good to know

Highlights

  • 5 hours
  • In person

About this event

Family & Education • Education

Ymunwch â ni ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf i ddarganfod mwy am ein hystod eang o raddau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth israddedig ac ôl-raddedig.

  • Ewch ar daith o gwmpas ein stiwdios a’n gweithdai pwrpasol.
  • Dewch i gwrdd â’n darlithwyr a sgwrsio â’n myfyrwyr.
  • Darganfyddwch pam y cawsom ein rhestru mewn safleoedd mor dda yn nhablau cynghrair 2024 y Guardian.

Ffasiwn a Thecstilau: 1af yng Nghymru a 3ydd yn y DU / Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth: 1af yng Nghymru a 4ydd yn y DU / Dylunio Graffig: 1af yng Nghymru ac 11eg yn y DU / Celf Gain: 1af yng Nghymru ac 21ain yn y DU

Mae’r pynciau yn y digwyddiad hwn yn cynnwys:

Celf a Dylunio Sylfaen | BA Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol | BA Crefftau Dylunio: Gwydr, Cerameg a Gemwaith | BA Ffilm a Theledu | BA Celf Gain | BA Dylunio Graffig | BA Darlunio | BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau | BA /BSc Dylunio Cynnyrch a Dodrefn | BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau | Portffolio Ôl-raddedig.

Os oes gennych ddiddordeb mewn BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, archebwch drwy ein Diwrnod Abertawe SA1

Mae mynychu Diwrnod Agored yn PCYDSS yn cynnig cyfle i chi ddod i’n nabod, gweld ai ni yw’r ffit orau i chi, ac archwilio’r ddinas a ddaw’n gartref i chi. Mewn diwrnod agored, cewch gyfle i gwrdd â’r darlithwyr a fydd yn eich addysgu, ac archwilio’r cyfleusterau a’r mannau dysgu a fydd yn allweddol i’r cwrs rydych wedi’i ddewis.

Dysgwch ragor am ble byddwch yn byw drwy glywed oddi wrth ein timau llety, a dysgwch ragor am yr opsiynau llety a fydd ar gael i chi. Siaradwch â myfyrwyr presennol i ddysgu am y lleoedd gorau i gymdeithasu wrth i chi wneud Abertawe yn gartref i chi.

Yn bwysicaf oll, cewch atebion i’r cwestiynau sy’n bwysig i chi.

Organised by

University of Wales Trinity Saint David

Followers

--

Events

--

Hosting

--

Free
Nov 29 · 09:30 GMT