Diwrnod Agored Prifysgol Caerdydd 27 Mawrth 2019
Event Information
Description
Bydd ein Diwrnod Agored cyntaf yn 2019 yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher 27 Mawrth 2019
Bydd ein Diwrnod Agored yn rhoi cyfle i chi gael blas ar y Brifysgol a'r ddinas.
Cewch gyfle i:
- fynd ar daith o amgylch y campws (gan gynnwys Campws Parc y Mynydd Bychan)
- mynd ar daith o amgylch y ddinas
- gweld Undeb y Myfyrwyr
- gweld preswylfeydd y myfyrwyr
- gweld adeiladau'r Ysgolion Academaidd a siarad â thiwtoriaid derbyn
- mynychu sgyrsiau
- defnyddio'n mannau cyngor
Ewch i wefan y Diwrnod Agored am fwy o fanylion.
I archebu tocyn ar gyfer eich grŵp ysgol, ewch i'n ffurflen ar gyfer ysgolion
Bydd Prifysgol Caerdydd yn cadw’r wybodaeth a ddarperir gennych yn unol â Pholisi Diogelu Data y Brifysgol. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i roi’r newyddion diweddaraf i chi cyn y Diwrnod Agored ac i hwyluso'ch profiad yn y Diwrnod Agored. Yn dilyn y digwyddiad, byddwn hefyd yn anfon ebost atoch i ofyn am eich adborth ynghylch y diwrnod agored. Nid oes rhaid i chi ymateb i'r arolwg.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarperir tan fis Medi'r flwyddyn ar ôl yr ydych chi'n bwriadu dechrau eich astudiaethau, fel y nodir ar y ffurflen gofrestru. Caiff gwybodaeth y rhai sy’n cofrestru fel gwesteion yn unig (h.y. rhieni a gwarcheidwaid) ei dileu ar ôl y digwyddiad.