Diwrnod Agored Rhithwir Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe: 3 o Fawrth 2021
Event Information
About this Event
Cwblhewch y cofrestriad os ydych yn ystyried astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe a hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, opsiynau ariannu a gwasanaethau cefnogi.
Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Agored Rhithwir i Ôl-raddedigion a chael mynediad arbennig i:
- Ein sgwrs ynghylch cyllid
- Holi ac Ateb i Fyfyrwyr
- Cyflwyniadau adrannol
- Sesiynau sgwrsio byw gyda staff
Mae ein Diwrnodau Agored yn ffordd wych o archwilio'n campysau hardd, cwrdd â'n staff addysgu a chael mewnwelediad i sut beth yw bywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i archwilio'n cyfleusterau addysgu, opsiynau llety, cyfleusterau chwaraeon, ystod o wasanaethau cefnogaeth myfyrwyr a derbyn cyngor ar gyllid myfyrwyr a chefnogaeth ariannol.
Os oes gennych unrhyw ymholiad cysylltwch â’r Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr Ôl-raddedig drwy e-bostio sro@abertawe.ac.uk.