Dydd Mawrth Digidol - Dadlapio Entrepreneuriaid
Free
Dydd Mawrth Digidol - Dadlapio Entrepreneuriaid

Dydd Mawrth Digidol - Dadlapio Entrepreneuriaid

Event Information

Share this event

Date and Time

Location

Location

Tramshed Tech

Pendyris Street

Cardiff

CF11 6RJ

United Kingdom

View Map

Friends Who Are Going
Event description

Description

Mae’r Nadolig wedi cyrraedd ac rydym yn dathlu’r naws entrepreneuraidd â rhywfaint o’n brwdfrydedd ein hunain.

Bydd Dydd Mawrth Digidol y mis hwn yn cynnwys siaradwyr cyffrous yn rhannu hanesion, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ac yn rhoi rhai awgrymiadau o’r tu mewn ar sut i fyw bywyd entrepreneur.

Ein siaradwr cyntaf yw’r ‘Entrepreneur Blin’ (Grumpy Entrepreneur), David Murray-Handley, a’i daith o fachgen 9 oed a oedd wrth ei fodd â thechnoleg yn plagio ei dad am y gemau consol diweddaraf, i arloeswr, mentor busnes a buddsoddwr llwyddiannus erbyn hyn.

Nesaf fydd Russell McAthy, sef Prif Swyddog Gweithredol Cubed. Bu arbenigedd Russell mewn marchnata digidol a dadansoddeg data yn ysbrydoliaeth i ni a llawer o fusnesau eraill, fel Fiat Motor Group, lle mae’n helpu busnes i sbarduno llwyddiant digidol.

I gloi, fydd yr Athro Dylan Jones-Evans yn rhannu ei brofiad helaeth o entrepreneuriaeth. Ef yw creawdwr Fast Growth 50, sy’n dathlu llwyddiant cwmnïau Cymreig llwyddiannus, ac mae’n golofnydd ar gyfer y Western Mail a’r Daily Post, ymysg nifer o bethau eraill.

Bydd tîm Innovation Point wrth law i gynnig cymorth ar ystod o gyfleoedd ariannu, felly os ydych yn fusnes a hoffai glywed am y profiadau sydd wedi sbarduno llwyddiant gwirioneddol yng Nghymru, dyma’r digwyddiad i chi!

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn Tramshed Tech ar 6 Rhagfyr dros wydraid o naws y Nadolig ac ychydig o fwyd y tymor.

Tîm Dydd Mawrth Digidol

Share with friends

Date and Time

Location

Tramshed Tech

Pendyris Street

Cardiff

CF11 6RJ

United Kingdom

View Map

Save This Event

Event Saved