'Etholiad y Senedd - Dy Bleidlais Gyntaf'
Event Information
About this Event
Ymunwch â thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd ar gyfer cyflwyniad byw am rôl a phwerau’r Senedd, a sut i bleidleisio. Perffaith ar gyfer gwasanaeth mewn ysgol neu goleg!
Yn sgil cyflwyno pleidleisiau i bobl ifanc 16 oed yn etholiad y Senedd yn 2021, bydd hon yn sesiwn amhrisiadwy i ennyn diddordeb y rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf yn y broses etholiadol, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer pleidleisio .
Addas i bobl Ifanc 14 – 18 mlwydd oed (Blynyddoedd 10-13)
Bydd y sesiwn yma yn cael ei gynnal yn y Gymraeg.
Gwasanaethau eraill yn y gyfres:
Chwefror 23 – 08:50 - 09:10Mawrth 22 – 08:50 - 09:10Ebrill 16 – 08:50 - 09:10
Sylwer os gwelwch yn dda: mae angen app Teams ar gyfer ymuno â'r sesiwn yma ar ddyfais ffôn symudol.
Datganiad Diogelwch Data
Byddwn yn rheoli tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn drwy ddefnyddio Eventbrite. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i gysylltu â chi am y digwyddiad, ac i gasglu unrhyw adborth am eich profiad. Dim ond at y diben hwn y byddwn yn defnyddio eich data, a gedwir unrhyw ddata am gyfnod o hyd at 6 mis cyn cael ei ddileu'n barhaol.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd llawn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y caiff eich gwybodaeth ei ddefnyddio, rhowch wybod i aelod o staff y Senedd cyn, neu yn ystod y digwyddiad, neu e-bostiwch contact@senedd.cymru.